Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Diben y rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw bod rhwydwaith o staff ledled yr Awdurdod wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth cyntaf iechyd meddwl i gydweithiwr mewn angen. Mae ein Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig wedi'u harfogi i roi cymorth cychwynnol i gydweithiwr sy'n profi argyfwng iechyd meddwl neu drallod emosiynol. Mae Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi'u hyfforddi i asesu'r sefyllfa, gwrando'n anfeirniadol a chyfeirio'r unigolyn at gymorth priodol. 

Mae'r cyfle i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig yn agored i'r holl staff ac mae'n rôl wirfoddol. Cyn penderfynu a oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, darllenwch y wybodaeth ar bob un o'r tudalennau isod yn drylwyr. 

I wneud cais i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, llenwch y ffurlen archebu ar-lein 

Iechyd a Llesiant