Rheoli poen cefn

Diweddarwyd y dudalen: 26/05/2023

Yn aml iawn, nid yw poen yng ngwaelod y cefn yn gysylltiedig ag achosion difrifol neu achosion a allai fod yn ddifrifol. Fel arfer, nid yw cyfnodau o boen cefn yn para'n hir, a gwelir gwelliannau cyflym o ran poen ac anabledd o fewn ychydig wythnosau i ychydig fisoedd. Yn groes i'r hyn sy'n wybodaeth gyffredin, un o'r pethau gwaethaf i'w gwneud pan fydd gennych boen cefn yw cael cyfnodau hir o orffwys yn y gwely, gan fod hyn yn hybu stiffrwydd, yn lleihau'r cyflenwad gwaed i'r ardal y mae angen ei gwella ac yn lleihau'r broses o symud tocsinau.

Canfu darganfyddiadau diweddar yn y byd clinigol faint y mae seicoleg a'r nerfau yn chwarae rhan yn ein poen cefn a'n hadferiad. Yn wir, mewn llawer o achosion lle mae poen cefn yn parhau, mae hyn yn aml yn fwy cysylltiedig â'r system nerfol, yn hytrach na phoen sy'n gysylltiedig â meinweoedd neu strwythur y cefn.

Os oes gennych broblem cefn, gall y pwyntiau allweddol hyn fod o gymorth mawr o ran newid eich ffordd o feddwl am yr hyn sy'n digwydd i'ch corff:

  • Os ydym yn pryderu bod ein cefnau wedi'u niweidio o hyd, gall hynny oedi ein hadferiad.
  • Pan fydd poen cefn yn parhau, bydd yn effeithio ar eich hwyliau.
  • Gall y ffordd y mae pobl o'ch cwmpas yn ymateb i'ch poen cefn ddylanwadu ar eich adferiad.
  • Bydd credu mai gwaith rhywun arall yw trwsio eich cefn yn atal adferiad.
  • Nid yw poen cefn cyfarwydd o ganlyniad i niwed i'r asgwrn cefn.
  • Bydd y ffordd rydych yn meddwl pan fyddwch yn profi poen cefn yn dylanwadu ar ba mor gyflym y byddwch yn gwella.
  • Pan fydd poen cefn yn parhau, mae'n annhebygol ei fod o ganlyniad i niwed i strwythur eich cefn.

Felly, mae'n bwysig cymryd rheolaeth dros y ffordd rydych yn meddwl am eich poen i helpu i gyflymu eich adferiad.

Mae poen yn ffactor amddiffynnol i atal niwed pellach ond gall hefyd lesteirio adferiad oherwydd ofn poen pellach. Mae rhan o'r ymennydd yn storio atgofion a gall poen cefn fod yn 'ymateb bygythiad' i'r ymennydd sy'n arwain at ofn poen hirdymor. Gall meddwl neu boeni am fygythiad neu bryder achosi ymateb bygythiad yn yr ymennydd. Felly, ceisiwch feddwl yn gadarnhaol am eich sefyllfa nawr ac yn y dyfodol.

  • Efallai y byddwch mewn mwy o boen ar y dechrau
  • Mae'n naturiol teimlo'n ochelgar – dyma ymateb yr ymennydd i'ch amddiffyn
  • Mae eich cefn yn cryfhau wrth symud
  • Nid oes dim wedi'i niweidio
  • Bydd cadw'n heini yn hybu adferiad
  • Ni fydd eich poenau yn eich niweidio
  • Mae'n ddiogel symud
  • Defnyddiwch eich cynllun poen

Gall cynllun poen eich helpu i deimlo eich bod yn rheoli eich poen cefn, nid fel arall. Cofiwch y bydd dyddiau da a dyddiau gwael ond, os byddwch yn cadw at eich cynllun poen, byddwch yn siŵr o wella'n raddol.

  1. Gan bwyll
  2. Derbyniwch ef
  3. Gwnewch archwiliad corff cyflym (dim diffyg teimlad, pinnau bach, coes yn gwegian oddi tanoch)
  4. Archwiliwch eich meddyliau (mae angen bod yn gadarnhaol)
  5. Anadlu 7/11 – i mewn gan gyfrif i 7, allan gan gyfrif i 11
  6. Ymestyn
  7. Addasu eich gweithgaredd – siaradwch â'ch rheolwr os ydych yn y gwaith
  8. Cadw'n heini
  9. Defnyddio meddyginiaeth
  10. Dychwelyd i'ch gweithgareddau arferol cyn gynted â phosibl
  11. Myfyrio – pam y digwyddodd a dysgu

Os ydych yn cael trafferth gyda phoen cefn a'i fod yn effeithio ar eich gallu i weithio (naill ai drwy'r poen neu'r blinder meddyliol oherwydd y poen) – peidiwch â dioddef yn dawel – siaradwch â'ch rheolwr llinell am gael eich atgyfeirio at Iechyd Galwedigaethol. Efallai y byddant yn gallu argymell newidiadau i'r drefn waith neu ddarparu ffisiotherapi. Fel arall, yn dibynnu ar p'un a ydych yn bodloni'r meini prawf, gallant eich atgyfeirio at Gynllun Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff y Cyngor.

 

 

Iechyd a Llesiant