Lleihau Faint O Alcohol Rydych Yn Ei Yfed

Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020

Faint o alcohol sy'n ddiogel i'w yfed? 

Mae canllawiau’r Prif Swyddog Meddygol yn argymell na ddylai oedolion, hynny yw dynion a menywod, yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 6 peint o gwrw cryfder canolig (4%), 6 gwydraid o win (13% 175ml) neu 14 mesur o wirod. Ceisiwch beidio â ‘chynilo’ eich unedau, mae'n well eu cael trwy gydol yr wythnos.  

Er mwyn cadw'r risg tymor byr yn isel, dylech gyfyngu ar faint o alcohol rydych yn ei yfed mewn un sesiwn a cheisio yfed yn arafach, am yn ail gyda bwyd a/neu ddŵr. Ffordd dda o geisio lleihau faint o alcohol rydych yn ei yfed yw cael o leiaf ychydig o ddiwrnodau heb alcohol yr wythnos.  

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael drwy ddarllen Canllawiau Yfed Risg Isel Prif Swyddogion Meddygol y DU  

Sut gall gormod o alcohol effeithio arnaf? 

Mae effeithiau tymor hir yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd yn cynnwys canser y geg, y gwddf a'r bronnau, strôc, clefyd y galon, clefyd yr afu, niwed i'r ymennydd a niwed i'r system nerfol. Dengys gwaith ymchwil y gall yfed risg uchel gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl, a cheir cysylltiadau cryf rhwng camddefnyddio alcohol, iselder a hunanladdiad.  

O ystyried ei effaith gyflym ar yr ymennydd, mae effeithiau tymor byr yfed gormod o alcohol mewn un sesiwn yn cynnwys colli cof, colli cydsymudiad echddygol, siarad yn aneglur, risg uwch o ddamweiniau ac anafiadau, camfarnu sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus a cholli hunanreolaeth. Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol y gall yfed alcohol, hyd yn oed swm risg isel, effeithio arnoch y diwrnod canlynol, megis colli eich gallu i ganolbwyntio, achosi anghofrwydd, cydnabyddiaeth a galluoedd seicomotor gwael. Dylech fod yn ymwybodol o'r wybodaeth hon pan fyddwch yn yfed alcohol y noson cyn diwrnod gwaith.  

Hunan-wiriwr ac adnoddau defnyddiol 

Os ydych chi'n poeni am faint o alcohol rydych yn ei yfed neu'n gobeithio cadarnhau eich bod chi'n yfed swm diogel, beth am roi cynnig ar y gwiriwr uned rhyngweithiol hwn i gyfrifo faint o unedau o alcohol rydych chi'n eu hyfed fel arfer.  

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, gallwch ddefnyddio'r adnoddau canlynol:  

Gweler ein tudalen Adnoddau a Chymorth allanol ar gyfer sefydliadau cymorth pellach.  

Iechyd a Llesiant