Ebrill 2024

Diweddarwyd y dudalen: 25/03/2024

Ebrill 2024

I lawrlwythio eich calendr hunan-ofal mis Ebrill, cliciwch yma

DYDD LLUN DYDD MAWRTH DYDD MERCHER DYDD IAU DYDD GWENER DYDD SADWRN DYDD SUL

1

Ymrwymo i fod yn fwy egnïol y mis hwn, gan ddechrau heddiw.

2

Newid eich hwyliau drwy wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau.

3

Nodi tri pheth rydych chi'n eu gwerthfawrogi amdanoch chi'ch hun.

4

Sylwi ar yr harddwch ym myd natur, hyd yn oed os nad ydych chi'n gallu mynd allan.

5

Nodi eich cryfderau cymeriad.

6

Mwynhau eich hoff bryd o fwyd.

 

7

Chwilio am y pethau da ym mhob un heddiw.

8

Gwrando ar eich corff, gorffwys os oes angen.

 

9

Rhannu dyfyniad ysbrydoledig.

 

10

Gwneud dewisiadau sy'n cael effaith gadarnhaol ar eraill heddiw.

11

Cael noson 'dim sgriniau' a mynd i'r gwely yn gynnar.

 

12

Edrych am ffordd o helpu elusen leol.

 

13

Mwynhau eich hoff bryd o fwyd.

 

 

14

Gwylio rhywbeth doniol a mwynhau chwerthin.

15

Rhannu atgof hapus gyda rhywun sy'n bwysig iawn i chi.

16

Sylwi ar sut rydych chi'n teimlo heddiw.

17 

Codi a symud, a threulio llai o amser yn eistedd heddiw.

18

Cofio tri pheth rydych wedi'u gwneud rydych chi'n falch ohonynt.

19

Gwenu a bod yn gyfeillgar tuag at bawb rydych chi'n cwrdd â nhw heddiw.

 

20

Diolch i chi'ch hun am y pethau rydych chi'n eu cymryd yn ganiataol yn aml.

 

21

Ymlacio'ch meddwl a'ch corff drwy wneud ioga.

22

Mwynhau amser gyda'ch anwyliaid.

 

23

Mynd am dro a mwynhau'r hyn sydd o'ch cwmpas  

24

Bod yn ddiolchgar am bopeth sydd gennych chi.

25

Cysylltu â ffrind nad ydych chi wedi siarad ag ef/hi yn ddiweddar.

26

Ystyried anhawster rydych chi'n ei wynebu o bersbectif newydd.

27

Dewis gweld eich camgymeriadau fel camau i'ch helpu i ddysgu.

28

Nodi rhywbeth i edrych ymlaen ato heddiw.

29

Gadael nodyn cadarnhaol i chi'ch hun ar eich desg.

30

Derbyn eich hun fel yr ydych chi.

 

 

 

   

Cofiwch, mae’n iawn i beidio bod yn iawn
Mae’r dudalen Iechyd a Llesiant yn cynnig cyngor a chymorth, neu cysylltwch ag un o’ch Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i gael sgwrs gyfrinachol.

Iechyd a Llesiant