Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth ganlynol yn ateb rhai o'ch ymholiadau, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, anfonwch e-bost atynt i Health&Wellbeing@sirgar.ac.uk.

Dylid ymgorffori eich rôl Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant 1 awr yr wythnos ochr yn ochr â'ch oriau gwaith cyfredol.

Nid yw'n hanfodol bod gennych gefndir mewn iechyd a lles neu hyfforddiant blaenorol i ddod yn Hyrwyddwr Iechyd a Llesiabt. Fodd bynnag, byddem yn cynghori'n gryf eich bod chi'n mynychu'r sesiynau hyfforddi / diweddaru gorfodol cychwynnol yn ogystal â'r sesiwn diweddaru fisol. Bydd hyn yn darparu trosolwg pwysig o rai diweddariadau lles allweddol, yn ogystal â rhoi cyfle i chi weld beth mae Hyrwyddwyr eraill yn ei wneud a rhannu arfer da.

Os penderfynwch ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl yr hyfforddiant y penderfynwch nad yw'r rôl hon ar eich cyfer chi, fe'ch cynghorir i gysylltu â'n Cydlynwyr Iechyd a Lles i drafod hyn ymhellach. Mae hon yn rôl wirfoddol felly os ydych chi'n teimlo nad yw hynny ar eich cyfer chi, byddwch chi'n gallu camu i lawr o'ch dyletswyddau ar unrhyw adeg.

Os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi ac yr hoffech chi siarad â rhywun, mae yna sawl opsiwn i chi. Cysylltwch â naill ai un o'ch cyd-Hyrwyddwyr trwy'r sianel Teams neu cysylltwch â'r Cydlynwyr Iechyd a Llesiant trwy Health&Wellbeing@sirgar.gov.uk

Ar ôl i chi gwblhau eich hyfforddiant, gofynnir i chi ddarparu proffil personol byr i'w gynnwys ar ein tudalen fewnrwyd Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant. Yma, bydd gweithwyr yn gallu darganfod pwy yw ein Hyrwyddwyr Iechyd a Lles a sut i gysylltu â nhw.

Bydd gennych hefyd yr opsiwn i lawrlwytho llofnod Hyrwyddwr Iechyd a Lles i adael i gydweithwyr wybod eich bod yn hapus i'w cefnogi.

Iechyd a Llesiant