Iechyd Meddwl

Diweddarwyd y dudalen: 16/02/2023

Mae iechyd meddwl, yn union fel iechyd corfforol, yn gyflwr sy'n effeithio ar bob un ohonom, ac mae'n rhywbeth y dylem feddwl amdano. Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn, ac mae ymchwil yn awgrymu y bydd 1 o bob 4 ohonom yn profi iechyd meddwl gwael mewn unrhyw flwyddyn. Mae salwch meddwl yn cyfeirio at ystod eang o gyflyrau sy'n effeithio ar eich hwyliau, eich meddwl a'ch ymddygiad. Ymhlith enghreifftiau o gyflyrau iechyd meddwl y mae anhwylderau gorbrder, iselder, sgitsoffrenia, anhwylderau deubegynol, anhwylderau bwyta ac ymddygiadau caethiwus

Achosion Iechyd Meddwl Gwael 

Gall amryw o achosion fod yn gyfrifol am broblemau iechyd meddwl. Yn achos nifer o bobl, mae'n debygol fod cyfuniad o ffactorau yn gyfrifol. Gall y rhain fod yn fiolegol, yn seicolegol neu'n amgylcheddol. Mae rhai enghreifftiau o achosion iechyd meddwl gwael yn cynnwys:  

  • trawma, esgeulustod neu gamdriniaeth yn ystod plentyndod 
  • profedigaeth 
  • ynysu cymdeithasol neu unigrwydd 
  • straen difrifol neu hirdymor 
  • cyflwr iechyd corfforol hirdymor 
  • pryderon ariannol, diweithdra, colli swydd 
  • anfantais gymdeithasol, tlodi neu ddyled 
  • bod yn ofalwr am amser hir 
  • trawma sylweddol ar ôl dod yn oedolyn 
  • anawsterau mewn perthynas neu ysgariad 
  • trais domestig, camdriniaeth neu fwlio
  • achosion corfforol fel anaf i'r pen neu gyflwr niwrolegol 

Gall ffordd o fyw hefyd effeithio ar eich iechyd meddwl megis gwaith, deiet, diffyg cwsg, alcohol a chyffuriau. Ond fel rheol, mae problem iechyd meddwl yn deillio o ffactorau eraill hefyd. 

Iechyd Meddwl yn y Gweithle 

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ail-lofnodi'r addewid Amser i Newid Cymru i ddangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi llesiant meddyliol yr holl weithwyr a lleihau stigma iechyd meddwl yn y gweithle. Mae Amser i Newid Cymru yn fudiad sy'n cefnogi sefydliadau i gynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl ac i fynd i'r afael â'r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl, ac annog diwylliant agored a chefnogol lle y mae gweithwyr yn teimlo'n gyfforddus i drafod ynghylch iechyd meddwl.  

Rydym yn gwneud ymdrechion parhaus i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gweithwyr o iechyd meddwl a straen. Rydym hefyd yn darparu arweiniad a chefnogaeth i reolwyr a gweithwyr i adnabod arwyddion a symptomau iechyd meddwl gwael, ac yn datblygu dull cyson o reoli iechyd meddwl a straen yn y gweithle. 

O ble y gallaf i gael cymorth? 

Os ydych yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch ar gyfer unrhyw faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl neu straen, mae nifer o sefydliadau allanol sy'n gallu helpu. Gellir gweld manylion amdanynt ar ein tudalen Adnoddau Allanol a Chymorth.  

Gallwch hefyd weld ein hadran Cyngor ynghylch Ffordd Iach o Fyw, sy'n darparu arweiniad ynghylch iechyd a llesiant er mwyn lleihau'r risg o ddatblygu salwch meddyliol neu gorfforol.  

Hyfforddiant Iechyd Meddwl 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael gennym ar eich cyfer ar ein tudalen Cyfleoedd Dysgu Corfforaethol, sy'n cynnwys Cyrsiau Hyfforddiant Iechyd Meddwl penodedig ar gyfer yr holl staff.  

Byddem hefyd yn argymell eich bod yn cwblhau'r modiwl e-ddysgu Iechyd Meddwl yn y Gweithle, sydd ar gael ar wefan Dysgu@Cymru 

Iechyd a Llesiant