Cyfleoedd Dysgu Corfforaethol

Diweddarwyd y dudalen: 20/03/2024

Croeso i'n tudalennau Dysgu a Datblygu Corfforaethol. Ein nod yw eich cynorthwyo i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn llwyddiannus yn eich rôl.

Byddwn yn ceisio gwneud hyn mewn ffordd hyblyg, trwy eich galluogi i ddysgu mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys e-ddysgu neu wyneb yn wyneb.

Bydd cyfleoedd Dysgu a Datblygu Corfforaethol yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ar y tudalennau hyn a gall ein tîm ymroddedig o ymgynghorwyr a staff cymorth eich helpu gyda'r canlynol:

  • Cyngor ynghylch sut i ddadansoddi eich anghenion hyfforddiant i chi eich hun ac i'ch staff.
  • Eich helpu i nodi cyfleoedd mentora a/neu hyfforddiant priodol i chi eich hun ac i'ch staff.
  • Cyngor ynghylch y dyletswyddau statudol y dylech eu cwmpasu wrth hyfforddi eich staff.
  • Cyngor ynghylch llwybrau priodol o ran hyfforddiant ac uwchsgilio i chi eich hun ac i'ch staff, a ddarperir gennym ni a chan ddarparwyr hyfforddiant eraill.
  • Cyngor ynghylch sut i sefydlu'r hyfforddiant y mae eich staff yn ei gael yn ogystal â gwerthuso'i effeithiolrwydd.
  • Cyfeirio at adnoddau a chyfleoedd eraill o ran hyfforddiant a dysgu a datblygu

Mae'r cyrsiau'n cwmpasu ystod eang o bynciau felly dylech ddarllen y taflenni'n drylwyr i sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir yn briodol i'ch rôl.

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i'n tudalen Cwrdd â'r Tîm neu anfonwch e-bost atom: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk