Cyfathrebu Effeithiol
Bitesize - Sgiliau Sgwrsio am Hyfforddiant
Unrhyw un sydd am ddysgu sut i ddefnyddio dull hyfforddi wrth gynnal sgwrs.
Bitesize - Darparu Adborth
Unrhyw un sydd am ddysgu sut i roi adborth clir, negyddol a chadarnhaol.
Bitesize - Gosod Amcanion Perthnasol
Rheolwyr sydd am ddeall manteision darparu eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau.
Elfen allweddol ar gyfer cymell ac ymgysylltu yw CYFATHREBU.
Mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.
Mae teimlo ein bod yn cael ein cynnwys yn angen dynol sylfaenol ac rydym yn cael ein cymell yn naturiol pan fyddwn yn gwybod beth yr ydym i fod i'w wneud, pa mor dda yr ydym yn perfformio a phan yr ymddiriedir ynom i wneud penderfyniadau yn ein rôl
3 elfen allweddol ar gyfer staff brwdfrydig, cynhyrchiol:
- Eglurder ynghylch cyfrifoldebau ac amcanion
- Adborth ar berfformiad – cadarnhaol yn ogystal â negyddol!
- Sgyrsiau am hyfforddiant sy'n dangos ymddiriedaeth ac yn galluogi datblygiad
Bydd y 3 arfer hon yn gwneud i ni deimlo'n frwdfrydig, yn gynhyrchiol, a'n bod yn cael ein cynnwys a'n gallu gwneud penderfyniadau
Bydd ein perthnasoedd yn gwella a bydd y sgyrsiau 'anodd' hynny yn naturiol yn dod yn 'llai anodd' wrth i drafodaethau ystyrlon ddigwydd yn rheolaidd a'n hawdd.
Mae'r arferion da hyn yn dod yn bwysicach fyth pan fyddwn yn gweithio o bell. Mae sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a bod pobl yn ymddiried ynddynt yn hanfodol er mwyn cadw ein timau gyda'i gilydd a sicrhau eu bod yn cymryd rhan.
Ymunwch â mi am 3 sesiwn fer a fydd yn rhoi technegau hawdd i chi i sicrhau bod eich timau'n cael sylfaen cyfathrebu ystyrlon.
Diweddarwyd y dudalen: 13/11/2020 12:20:32