Arweinyddiaeth A Rheolaeth
Cynorthwyo rheolwyr gofal cymdeithasol i hyfforddi, datblygu a chymhwyso
Rydym yn cynnig ystod o hyfforddiant ar sgiliau rheoli craidd ar gyfer gofal cymdeithasol trwy y tîm corfforaethol. Mae'r rhaglenni hyn yn cefnogi ystod o alluoedd a sgiliau ar gyfer rheolwyr.
Mae Hyfforddi a Mentora yn rhan allweddol o ddatblygu ac os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am sut y gall hyfforddiant eich helpu chi ac eraill i dyfu a datblygu, cysylltwch â ni i holi.
Mae RhDGGCC hefyd yn cefnogi ystod o gymwysterau rheoli ac arwain i gwrdd ag anghenion cofrestru er mwyn i weithwyr gofal cymdeithasol fod yn rheolwyr. Rydym hefyd yn cefnogi astudiaethau lefel uwch i ddiwallu anghenion busnes ac i gefnogi camau dilyniant gyrfa cydnabyddedig. I wneud cais am QCF, dilynwch y ddolen i'r ddalen Cymwysterau.
Mae tîm arferion RhDGGCC hefyd yn clustnodi a chefnogi rheolwyr perthnasol i ymgymryd â'r Rhaglen Datblygu Rheolaeth Tîm [TMDP] a Rhaglen Datblygu Rheolwyr Canol [MMDP]. Cysylltwch â ni i wneud unrhyw ymholiad neu i wneud cais.
Mae RhDGGCC yn darparu ystod o sgiliau datblygu mewn rheoli ac arwain gan gynnwys ‘Action Learning’. Os oes gennych unrhyw arbenigedd neu gofynion rheoli ac arwain ychwanegol, cysylltwch â ni.
Diweddarwyd y dudalen: 12/02/2020 13:00:22