Cymwysterau

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Mae RhDGGCC Sir Gaerfyrddin yn darparu amrywiaeth o gymwysterau ar gyfer staff gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol cymwys. Dewiswch gyrsiau sy'n briodol i'ch rôl o'r rhestr isod. At ddibenion cofrestru, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol cymwys gwblhau o leiaf 90 awr o hyfforddiant dros gyfnod o dair blynedd. Os ydych yn ansicr pa gwrs sy'n berthnasol i'ch rôl, cysylltwch â Dysgu a Datblygu.

Cyflwyniad i Ddysgu Ymarfer ac Asesu Ymarfer ym maes Gwaith Cymdeithasol

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig a chymwysedig ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad o ymarfer ar ôl cymhwyso sydd â diddordeb mewn bod yn 'Addysgwyr Ymarfer' cymwysedig. Mae'n rhaid i weithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso ers Ebrill, 2016 fod wedi cwblhau'n llwyddiannus y Rhaglen Atgyfnerthu cyn iddynt wneud cais. Mae'n gwrs ôl-raddedig 30 credyd ar Lefel Meistr 7. Hefyd mae'r cwrs hwn yn gofyn am asesiad parhaus o fyfyriwr gradd neu radd meistr ym maes gwaith cymdeithasol a fydd yn cael ei leoli yng ngweithle'r ymgeisydd am 80, 90 neu 100 o ddiwrnodau.

Mwy o wybodaeth

Myfyrio Beirniadol Mewn Grym (Gweithdy Datblygu 1)

Hwn yw'r cyntaf mewn Cyfres o 4 Gweithdy Datblygu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn eu Blwyddyn Gyntaf yn eu Swydd. Hefyd mae'n bwysig nodi fod y gweithdai hyn yn paratoi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ar gyfer y gwaith sydd i'w gwblhau yn y Rhaglen Atgyfnerthu yn eu hail flwyddyn yn eu swydd.

Mwy o wybodaeth

Tystysgrif Lefel 3 mewn Gofal Dementia

Anelir y cymwysterau hyn at amrywiaeth eang o rolau a meysydd galwedigaethol ar draws pob grŵp ac oedran defnyddwyr gwasanaeth, gan weithio mewn asiantaethau statudol (gan gynnwys y GIG), preifat a gwirfoddol. Byddai hyn yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn, sydd â diddordeb mewn gweithio mewn rôl ofalu ar gyfer pobl hŷn.

Mwy o wybodaeth

Rhaglen Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, y Brifysgol Agored

Mae Adran Cymunedau ac Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi cyfleoedd i staff perthnasol wneud cais am nawdd rhannol ar gyfer Rhaglen Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol Agored.

Mwy o wybodaeth

Mentorio Gweithwyr Cymdeithasol yn eu Blwyddyn Gyntaf Mewn Ymarfer

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwysedig sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, Uwch-ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol, Arweinwyr Proffesiynol a Rheolwyr Tîm (sy'n gymwysedig i weithio ym maes Gwaith Cymdeithasol) sy'n dymuno bod yn fentoriaid i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso sydd yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer.

Mwy o wybodaeth