Cymhwyster Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes gyda Coleg Gŵyr Abertawe

Diweddarwyd y dudalen: 07/08/2023

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi ymgeiswyr i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni rolau sy’n ymwneud â chyfathrebu digidol, cydweithio a datblygu. Mae defnyddio meddalwedd prosesu geiriau (Microsoft Word), taenlenni (Microsoft Excel) ac e-bost (Microsoft Outlook) mewn modd effeithio yn medru gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn y gweithle, gan gynnal enw da'r cwmni.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill dealltwriaeth a sgiliau a fydd yn eu galluogi i gyfathrebu’n effeithiol yn fewnol ac allanol, paratoi deunyddiau o ansawdd uchel, dadansoddi data’n effeithiol; mae’r rhain yn sgiliau y gellid eu trosglwyddo i nifer o swyddi o fewn y sefydliad.

Mae'r cymhwyster hwn yn gofyn i chi gwblhau 3 sesiwn ar Word, Excel ac Outlook ar naill ai lefel 1 neu 2