Wythnos Dysgu yn y Gwaith 2024

Diweddarwyd y dudalen: 22/04/2024

Beth yw Wythnos Dysgu yn y Gwaith?

Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ddigwyddiad blynyddol unigryw i adeiladu diwylliannau dysgu yn y gwaith. Ei nod yw tynnu sylw at bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygu parhaus. Rydym wedi canfod dysgu bydd yn ein helpu i dyfu, datblygu a chyrraedd ein nodau trwy ddefnyddio'r blociau adeiladu allweddol sy'n ein galluogi i ddysgu trwy fywyd, gan gynnwys sut y gallwn adeiladu agweddau a meddylfryd cadarnhaol tuag at ddysgu. 

Pryd mae'n digwydd?

Cynhelir Wythnos Dysgu yn y Gwaith rhwng 13 a 17 Mai 2024. Y thema eleni yw "Pŵer Dysgu", ag mi fyddwn yn anelu i gefnogi dysgu cynhwysol yn y gwaith, fel bod gan bob un ohonom fynediad at ddysgu a'r pŵer a'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.   

Pwy all gymryd rhan a faint fydd y gost?

Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith wedi'i chynllunio fel bod pawb yn gallu cymryd rhan a'r darn gorau…..Rydym yn darparu popeth am ddim!!!

Pa gyfleoedd sydd ar gael?

Eleni, rydym yn hyrwyddo adnoddau, cynnal gweithgareddau a sesiynau ar-lein sy'n cefnogi "Tueddiadau Mawr", lle rydym yn eich annog i archwilio agweddau gwahanol, a beth mae hyn yn ei olygu i ddyfodol gwaith, bywyd a busnes, a'r effaith y gallai ei chael arnoch, fel newid  hinsawdd a chynaliadwyedd, trawsnewid digidol a gwaith bywyd hirach. 

Ewch i'r dudalen Sesiynau Blasu i ddarganfod pa sesiynau y gallwch fynychu'r wythnos hon, os nad oes gennych amser i fynychu sesiwn, rydym hefyd wedi creu digon o bethau hwyliog i chi roi cynnig ar.