Blociau Pŵer

Diweddarwyd y dudalen: 22/04/2024

O fewn Dysgu a Datblygu, rydym yn cefnogi cydweithwyr i hybu sgiliau sy'n flociau adeiladu ar gyfer bywyd a gwaith megis rhifedd, llythrennedd, iaith a sgiliau digidol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl beirniadol, creadigrwydd a datrys problemau. Rydym hefyd yn annog gweithio gyda mentoriaid a hyfforddwyr sy'n helpu i rhoi cefnogaeth.   

A oeddech chi'n ymwybodol bod pobl sy'n siarad mwy nag un iaith yn well gyda’i sgiliau cof, datrys problemau a meddwl yn feirniadol, gwell canolbwyntio, gallu i amldasgio, a sgiliau gwrando gwell? A gall dysgu sgiliau digidol eich helpu i ddefnyddio technoleg wahanol yn y gwaith ac yn y cartref?   

Rydym wedi rhoi gweithgareddau hwyliog at ei gilydd i helpu’ch iaith Gymraeg a datblygu eich sgiliau digidol .....ac os oes gennych diddordeb i ddysgu sgil newydd neu os oes angen cyngor, help neu arweiniad arnoch neu hyd yn oed os hoffech wella neu ailfywio’ch dealltwriaeth, mae gennym lwyth o gyrsiau ar gael ar tudalennau D&D os hoffech ddysgu mwy.