"Bydd y system newydd yn ein helpu i ddatblygu'r dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'n cymunedau a dod yn Gyflogwr o Ddewis mwy modern ac ymatebol."

Cynghorydd Philip Hughes

“Mae system Thinqi wedi cael ei chaffael gan ddefnyddio dull 'Unwaith i Gymru' ac mae disgwyl y bydd hyn yn trawsnewid ein dysgu ar draws ffiniau. Gwnaethpwyd y gwaith caffael ar y cyd â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili a Blaenau Gwent, ac roedd pob un o'r 22 awdurdod lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill wedi'u rhestru ar y Contract Cymru Gyfan.  Os gallwn rannu'r dysgu, bydd yr adnodd cyfun hwnnw'n gallu datblygu ymhellach yr hyn a gynigir i'n pobl.” 

Paul Thomas, y Prif Weithredwr Cynorthwyol