Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru [RhDGGCC]

Diweddarwyd y dudalen: 24/11/2023

Mae Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru [RhDGGCC] yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rheoli gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae Sir Gaerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion i reoli a darparu cynllun blynyddol sydd â'r nod o fodloni blaenoriaethau cenedlaethol, lleol a rhanbarthol.

Mae'r grant yn ychwanegiad sylweddol at yr hyn y mae cyflogwyr yn ei ddarparu ar gyfer hyfforddiant gofal cymdeithasol a, lle bo'n briodol, rydym yn gweithio ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys iechyd, i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, gwasanaethau a gomisiynir a'r sector annibynnol/gwirfoddol.

Mae ein tîm ymroddedig o ymgynghorwyr a staff cymorth yn gallu'ch cynorthwyo o ran y canlynol:

  • Cyngor ynghylch sut i ddadansoddi eich anghenion hyfforddiant i chi eich hun ac i'ch staff,
  • Eich helpu i nodi cyfleoedd mentora a/neu hyfforddiant priodol i chi eich hun ac i'ch staff,
  • Cyngor ynghylch y dyletswyddau statudol y dylech eu cynnwys wrth hyfforddi'ch staff,
  • Cyngor ynghylch llwybrau priodol o ran hyfforddiant ac uwchsgilio i chi eich hun ac i'ch staff, a ddarperir gennym ni a chan ddarparwyr hyfforddiant eraill,
  • Cyngor ynghylch sut i sefydlu'r hyfforddiant y mae eich staff yn ei gael yn ogystal â gwerthuso'i effeithiolrwydd,
  • Cyfeirio at adnoddau a chyfleoedd eraill o ran hyfforddiant a dysgu a datblygu.

Dewiswch gyrsiau sy'n briodol i'ch swydd o'r rhestr isod.

Mae cyrsiau'n ymdrin ag ystod eang o bynciau felly darllenwch y taflenni'n drylwyr i sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir yn briodol i'ch swydd.

Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth ewch i'n tudalen Cwrdd â'r Tîm neu anfonwch e-bost atom: LD@sirgar.gov.uk