Hyfforddiant Craidd

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Mae'r adran hon yn cynnig amrywiaeth o raglenni a fydd yn diwallu anghenion dysgu staff gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol cymwys.  Bwriedir i'r hyfforddiant gynorthwyo staff i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau craidd sydd eu hangen i gyflawni eu rolau'n effeithiol.  Gofynnir i chi ddarllen y taflenni'n drylwyr i sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir yn briodol i'ch rôl.  Mae'n rhaid i'r holl geisiadau gael eu cymeradwyo gan eich rheolwr cyn eu cyflwyno.

Alcohol a Sgrinio

Staff yr Awdurdod Lleol a staff y sector annibynnol sy'n cynnig cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd â phroblemau alcohol.

Mwy o wybodaeth

Budd-daliadau Trosolwg

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.

Mwy o wybodaeth

Datblygiad yr Ymennydd a Chamddefnyddio Sylweddau

Pob aelod o staff a allai ddod i gysylltiad â phobl ifanc sy'n defnyddio cyffuriau ac alcohol.

Mwy o wybodaeth

Canabis a Sgrinio

Staff yr Awdurdod Lleol a staff y sector annibynnol y mae eu rolau'n cynnwys cefnogi unigolion sy'n defnyddio canabis.

Mwy o wybodaeth

Urddas mewn Gofal

Staff gofal cartref a gofal preswyl, mewnol ac allanol

Mwy o wybodaeth

Epilepsi a Meddyginiaeth Achub

Staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda a chefnogi'r rhai sydd ag epilepsi

Mwy o wybodaeth

Effaith Trawma

Yr holl staff sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Mwy o wybodaeth

Rheoli Heintiau

Holl staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn unrhyw leoliad gofal gan gynnwys y sector annibynnol. Unrhyw staff sy'n helpu pobl hŷn yn eu bywyd pob dydd yn y gymuned.

Mwy o wybodaeth

Cyflwyniad i Gyfweliad Ysgogol

Yr holl staff sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Plant, gan gynnwys Maethu a Mabwysiadu, a'r timau Cam Nesaf.

Mwy o wybodaeth

Cyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd (IPED)

Yr holl staff sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion sy'n defnyddio neu sy’n ystyried defnyddio Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd. Gall hyn gynnwys yr holl ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a darparwyr gwasanaethau tai, cam-drin domestig, yr heddlu, cyflogaeth, hyfforddiant, addysg a chyfleusterau hamdden, a hoffai gael rhagor o wybodaeth ynghylch diwylliant ac arferion y grŵp hwn o ddefnyddwyr.

Mwy o wybodaeth

Edrych y tu hwnt i'r label

Oll staff sy'n cefnogi unigolion ag anabledd dysgu.

Mwy o wybodaeth

Rheoli Risg a Disgwyliadau

Holl staff Gwasanaethau Plant, Maethu a Mabwysiadu, y Tîm o Amgylch y Teulu, gwasanaeth dan 25 oed, y trydydd sector a'r sector annibynnol

Mwy o wybodaeth

Canolbwyntio ar y Person

Staff gofal cymdeithasol newydd a/neu brofiadol mewn gwasanaethau gofal preswyl, nyrsio a chartref lle mae angen dealltwriaeth o waith sy'n canolbwyntio ar y person.

Mwy o wybodaeth

Egwyddorion Adrodd a Chofnodi

Holl staff Gwasanaethau Plant, Maethu a Mabwysiadu, y Tîm o Amgylch y Teulu, Gwasanaeth dan 25 oed, y trydydd sector a'r sector annibynnol, yn ogystal â Gwasanaethau Gofal Cartref i Oedolion a staff preswyl.

Mwy o wybodaeth

Llunio Adroddiadau a Chofnodi Achosion

Bydd staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Adnoddau Cymunedol yn cael blaenoriaeth ond bydd ceisiadau hefyd yn cael eu derbyn gan staff gwaith cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion.

Mwy o wybodaeth

Troseddu Rhywiol gan Bobl ag Anableddau Dysgu

Staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu ac yn y Tîm Pontio

Mwy o wybodaeth

Dulliau sy'n Canolbwyntio ar Atebion

Holl staff y Gwasanaethau Plant, prosiectau Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) a Teuluoedd yn Gyntaf, gwasanaethau Gofal Plant Preswyl, Maethu a Mabwysiadu, y 3ydd Sector.

Mwy o wybodaeth

Sylweddau 101

Mae'r holl staff yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant, Ieuenctid, Oedolion a gweithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o gael niwed drwy gamddefnyddio sylweddau.

Mwy o wybodaeth

Hyfywedd Meinwe (Gofal Pwysau)

Yr holl staff gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau gofal preswyl, nyrsio a chartref.

Mwy o wybodaeth

Deall Awtistiaeth - Hyfforddiant Ynghlych Awtistiaeth ar gyfer Ymarferwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol

YMARFERWYR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL - Datblygwyd y cwrs hwn i gefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n gweithio gydag unigolion sydd ag awtistiaeth (plant ac oedolion).

Mae'r cwrs hwn yn berthnasol i chi os:-

  • rydych yn gweithio mewn gwasanaeth lle gallwch gefnogi pobl awtistig a'u teuluoedd.
  • mae angen i chi fod yn ymwybodol o sut i addasu eich ymarfer/cyfathrebu i gefnogi unigolion sydd ag awtistiaeth (oedolion neu blant)

Mwy o wybodaeth