Canabis a Sgrinio

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff yr Awdurdod Lleol a staff y sector annibynnol y mae eu rolau'n cynnwys cefnogi unigolion sy'n defnyddio canabis.

Beth yw'r amcanion?

Drwy fynychu'r cwrs hwn cynigir y canlynol i gyfranogwyr:

  • Mwy o wybodaeth am ganabis a chanabinoidau synthetig
  • Cyfleoedd i roi sylw i agweddau at ganabis a chanfyddiadau o ganabis a sut mae hynny'n effeithio ar y defnydd ohono
  • Mwy o wybodaeth am gyngor lleihau niwed sylfaenol
  • Datblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â defnyddio offeryn sgrinio at ddiben atgyfeirio

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cynnig i'r staff perthnasol gyfle i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i gynnig cymorth effeithiol i unigolion sy'n defnyddio canabis.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

4 Awr

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.