Edrych y tu hwnt i'r label

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Oll staff sy'n cefnogi unigolion ag anabledd dysgu.

Beth yw'r amcanion?

Nod yr hyfforddiant hwn yw annog agweddau cadarnhaol tuag at bobl ag anabledd dysgu, gan edrych ar y ffordd rydych chi'n gweithio, a sut y gallwch chi newid y ffordd rydych chi'n gweithio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Sut mae'r gymdeithas yn ein gweld ni? Siarad am y rhwystrau sy'n wynebu pobl ag anableddau dysgu ym mywyd o ddydd i ddydd.
  • Edrych ar yr 8 label niweidiol.
  • Edrych ar ddad-werthfawrogi iaith.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cynnig ymwybyddiaeth i'r cynrychiolwyr o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ag anabledd dysgu a dealltwriaeth o wahanol fodelau o anabledd a sut maent yn dylanwadu ar sut rydych chi'n gweithio.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.