Deall Awtistiaeth - Hyfforddiant Ynghlych Awtistiaeth ar gyfer Ymarferwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

YMARFERWYR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL - Datblygwyd y cwrs hwn i gefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n gweithio gydag unigolion sydd ag awtistiaeth (plant ac oedolion).

Mae'r cwrs hwn yn berthnasol i chi os:-

  • rydych yn gweithio mewn gwasanaeth lle gallwch gefnogi pobl awtistig a'u teuluoedd.
  • mae angen i chi fod yn ymwybodol o sut i addasu eich ymarfer/cyfathrebu i gefnogi unigolion sydd ag awtistiaeth (oedolion neu blant)

Beth yw'r amcanion?

  • Nodi sut mae awtistiaeth yn cael ei diffinio a'i diagnosio
  • Esbonio sut mae awtistiaeth yn effeithio ar y ffordd y mae person yn rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas
  • Darparu syniadau ymarferol a chyflwyno adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol wrth gefnogi unigolion sydd ag awtistiaeth

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

  • Bydd yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol o awtistiaeth.
  • Bydd yn sicrhau bod y gweithlu'n ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael i weithwyr proffesiynol wrth weithio gydag unigolion sydd ag awtistiaeth

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

Hanner Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.