Canolbwyntio ar y Person

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gofal cymdeithasol newydd a/neu brofiadol mewn gwasanaethau gofal preswyl, nyrsio a chartref lle mae angen dealltwriaeth o waith sy'n canolbwyntio ar y person.

Beth yw'r amcanion?

Bydd y pynciau a gwmpesir gan y cwrs hwn yn cynnwys:

  • Dealltwriaeth o Ofal sy'n Canolbwyntio ar y Person
  • Llunio cynllun gofal unigol
  • Edrych ar y darlun 'cyflawn'
  • Cyfrinachedd a llywodraethu gwybodaeth
  • Sut y gall arferion gwaith effeithio ar yr unigolyn rydych yn ei gefnogi
  • Ffiniau proffesiynol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Nod y cwrs yw darparu'r sgiliau i wneud gwahaniaethau amlwg i unigolion y mae'r staff gofal yn eu cefnogi. Er mwyn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar anghenion, dymuniadau a dewisiadau unigolion ac sydd wedi'i deilwra iddynt, mae angen gwybodaeth, profiad a hyfforddiant ychwanegol.

Hyd y cwrs:

Hanner diwrnod

Cost:

Am ddim

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.