Urddas mewn Gofal

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gofal cartref a gofal preswyl, mewnol ac allanol

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr yn deall:

  • Beth yw urddas?
  • Beth mae cyfraith gofal cymdeithasol, canllawiau a fframweithiau arfer da ac ati yn ei ddweud am urddas?
  • Mewn sefyllfaoedd gofal cymdeithasol, beth all hyrwyddo / lleihau urddas?
  • Sut y gall diwylliant sefydliadol a gweithle / amgylchedd ffisegol / agweddau ac ymddygiad / iaith ac ati effeithio ar urddas?
  • Sut gallai pobl deimlo pan fydd urddas yn bresennol / yn absennol?
  • Rhai pethau ymarferol y gallwn / y dylwn eu gwneud i gyflwyno cymorth gofal cymdeithasol gydag urddas

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cynrychiolwyr yn fwy hyderus a galluog i gefnogi pobl

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

Hanner Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.