Epilepsi a Meddyginiaeth Achub

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda a chefnogi'r rhai sydd ag epilepsi

Beth yw'r amcanion?

Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu theori yn unig, sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • Beth yw epilepsi
  • Pethau sy’n gallu peri epilepsi
  • Diagnosis clinigol a dosbarthiadau trawiadau
  • Opsiynau triniaeth
  • Dewisiadau ffordd o fyw ac asesu risg
  • Cymorth cyntaf sylfaenol
  • Sefyllfaoedd brys: cyflwr epileptig, marwolaeth annisgwyl sydyn mewn epilepsi (SUDEP) a meddyginiaethau achub

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae rhoi meddyginiaeth frys/achub yn canolbwyntio ar yr unigolyn a dylid cael ei ategu drwy'r amser gan gynllun achub epilepsi ar gyfer unrhyw unigolyn sydd angen meddyginiaeth achub arno.

Hyd y cwrs:

Un diwrnod

Cost:

Am ddim

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.