Gweithdrefnau a Pholisiau

Diweddarwyd y dudalen: 30/05/2023

Mae polisïau a gweithdrefnau yn esbonio sut y mae disgwyl i ni weithio gyda'n gilydd, gwneud penderfyniadau a gweithredu cynlluniau a strategaethau. Rydym yn cynnig ystod eang o raglenni sy'n addas ar gyfer gweithwyr a rheolwyr.

Mae ein rhaglenni dysgu polisïau a gweithdrefnau yn rhoi cyfle i reolwyr a staff ddysgu am sut i roi polisïau ar waith yn y gweithle. Mae rhaglenni'n cynnwys cyfuniad o e-ddysgu, sesiynau ystafell ddosbarth neu'r ddau ddull gyda'i gilydd neu ddysgu cyfunol.

Arfarniadau - Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd

Yr holl staff - Unrhyw un sydd am ddysgu mwy am sut i ddefnyddio ein harfarniad seiliedig ar gryfderau

Mwy o wybodaeth

Arfarniadau (Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd) - Sgyrsiau Gonest

Ail ran o Ddosbarth Meistr i Reolwyr sy'n cynnwys 2 ran: ar gyfer Rheolwyr a goruchwylwyr sy'n gyfrifol am gynnal arfarniadau.

Mwy o wybodaeth

Arfarniadau (Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd) - Sgyrsiau ar gyfer Twf

Rhan gyntaf o Ddosbarth Meistr i Reolwyr sy'n cynnwys 2 ran: ar gyfer Rheolwyr a goruchwylwyr sy'n gyfrifol am gynnal arfarniadau.

Mwy o wybodaeth

Sgiliau Recriwtio a Dethol

Rheolwyr sy'n gyfrifol am recriwtio staff.

Mwy o wybodaeth

Hyfforddiant Gloywi - Ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog

Bydd y modiwl hwn yn hyfforddiant gloywi da ynghylch Cyfamod y Lluoedd Arfog neu'n gyflwyniad gwych os nad ydych wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol o'r blaen. 

Mwy o wybodaeth

Recriwtio Mwy Diogel

Os ydych chi’n recriwtio staff neu wirfoddolwyr i weithio gyda phlant neu bobl ifanc, mae’n hanfodol eich bod chi’n creu diwylliant o recriwtio mwy diogel ac yn rhan o hynny, yn rhoi camau ar waith sy’n helpu i rwystro, gwrthod neu adnabod pobl allai niweidio plant.

Mwy o wybodaeth