Hyfforddiant Gloywi - Ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Bydd y modiwl hwn yn hyfforddiant gloywi da ynghylch Cyfamod y Lluoedd Arfog neu'n gyflwyniad gwych os nad ydych wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol o'r blaen. 

Beth yw'r amcanion?

Byddwn yn rhoi sylw i'r meysydd canlynol:

  • Beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog?
  • Pwy yw Cymuned y Lluoedd Arfog?
  • Deddf y Lluoedd Arfog 2021
  • Y Ddyletswydd Statudol a sut mae'n berthnasol.
  • Aelod perthnasol o'r teulu
  • Atgyfeiriadau

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

  • Bydd y sesiwn yn cael ei chynllunio i fod yn addysgiadol ac yn rhyngweithiol ac i ddarparu cyfle ar gyfer trafodaeth.
  • Ffynonellau Cymorth

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2yp – 4yp

Cost:

0.00

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.