Recriwtio Mwy Diogel

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Os ydych chi’n recriwtio staff neu wirfoddolwyr i weithio gyda phlant neu bobl ifanc, mae’n hanfodol eich bod chi’n creu diwylliant o recriwtio mwy diogel ac yn rhan o hynny, yn rhoi camau ar waith sy’n helpu i rwystro, gwrthod neu adnabod pobl allai niweidio plant.

Beth yw'r amcanion?

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn, gaiff ei gynnal dros ddwy sesiwn hanner-diwrnod ar-lein yn edrych ar:

  • Recriwtio Mwy Diogel a chyd-destun ehangach diogelu
  • Ystadegau am gam-drin a phroffeil unigolion sy’n cam-drin
  • Sut mae unigolion sy’n cam-drin yn gweithredu o fewn sefydliadau
  • Nodweddion proses Recriwtio Mwy Diogel a chynllunio proses Recriwtio Mwy Diogel
  • Gwneud y penderfyniad cywir: cyfweld a dethol
  • Defnyddio gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • Gosod safonau ymddygiad derbyniol a chynnal diwylliant o wyliadwriaeth parhaus

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Gall Sglein eich helpu chi i wella eich gwybodaeth, datblygu eich sgiliau a chodi eich hyder er mwyn recriwtio’r unigolion cywir a chynnal diwylliant o wyliadwriaeth parhaus.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2 sesiwn hanner diwrnod

Cost:

Dim tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.