Niwroamrywiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 24/04/2024

Mae niwroamrywiaeth yn disgrifio'r syniad bod pobl yn profi ac yn rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas mewn sawl ffordd; nid oes ffordd "iawn" o feddwl, dysgu, ac ymddwyn, ac nid yw gwahaniaethau'n cael eu hystyried yn ddiffygion.

Mae'r gair niwroamrywiaeth yn cyfeirio at amrywiaeth pawb, ond caiff ei ddefnyddio'n aml yng nghyd-destun anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth (ASD), yn ogystal â chyflyrau niwrolegol neu ddatblygiadol eraill megis Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio (ADHD) neu anableddau dysgu. Mae dysg ynghylch y pwnc hwn yn anelu at helpu rhai i dderbyn a chynnwys pawb, gan groesawu gwahaniaethau niwrolegol.

Mae geiriau'n bwysig mewn niwroamrywiaet

Mae eiriolwyr niwroamrywiaeth yn annog iaith gynhwysol, anfeirniadol. Er bod yn well gan lawer o sefydliadau eiriolaeth anabledd iaith person yn gyntaf ("person ag awtistiaeth," "person â Syndrom Down"), mae peth ymchwil wedi canfod bod y rhan fwyaf o'r gymuned awtistig yn ffafrio iaith hunaniaeth yn gyntaf ("person awtistig"). Felly, yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau, mae'n well gofyn yn uniongyrchol am yr iaith a ffefrir gan unigolion, a sut maent am i bobl gyferio atynt. Mae gwybodaeth am niwroamrywiaeth ac iaith barchus yn bwysig i drin pobl â gwahaniaethau niwroddatblygiadol yn deg.

Daliwch i wirio'r dudalen hon am wybodaeth newydd.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y tudalennau Iechyd a Lles.