Datblygu eich sgiliau digidol

Diweddarwyd y dudalen: 09/02/2024

Ewch ati i ddatblygu eich sgiliau digidol trwy ddysgu, gwella neu loywi eich gwybodaeth!

Mae angen i bob aelod o staff ddysgu sgiliau digidol er mwyn eu helpu yn y gwaith i ddarparu cymorth i'n cydweithwyr a'n cwsmeriaid. Gallai dysgu sgiliau digidol eich helpu chi i ddefnyddio gwahanol dechnoleg yn y gwaith a gartref!

Yn Dysgu a Datblygu gallwn ddarparu cymorth i chi ar bob cam o'ch taith, p'un a oes angen gwybodaeth sylfaenol arnoch ynglŷn â sgiliau digidol neu wella eich hyder mewn maes penodol. Mae ystod o lwybrau dysgu ar gael sy'n addas i bawb.

Cadwch lygad ar y dudalen hon er mwyn cael gwybodaeth am y cyfleoedd datblygu digidol diweddaraf.

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, e-bostiwch ni : dysguadatblygu@sirgar.gov.uk