Hyfforddi a Mentora

Diweddarwyd y dudalen: 30/05/2023

Beth yw Hyfforddi a Mentora?

Hyfforddiant

“Mae hyfforddi yn helpu unigolyn i gynyddu ei berfformiad i'r eithaf. Mae'n ei helpu i ddysgu yn hytrach nag yn eu haddysgu." Timothy Gallwey (1975)

Rwy'n hoff iawn o gymharu hyfforddiant â cherbyd, gan ei fod yn mynd â chi o'r man presennol i'r man yr hoffech ei fod.

Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, rydym yn gweld gwerth mewn hyfforddiant ffurfiol 1-1 yn ogystal â hyfforddiant llai ffurfiol bob dydd megis sgyrsiau am hyfforddiant. 

Mae gennym rwydwaith o hyfforddwyr cymwys a fydd yn gweithio gyda chi i fynd i'r afael â'ch cyfyng-gyngor/materion neu'n eich helpu i gyflawni eich amcanion, boed yn bersonol neu'n rhan o dîm.

Nid yw'n angenrheidiol i hyfforddwr wybod pob dim am eich maes gwaith.  Mae'n rhaid i Hyfforddwr fod yn arbenigwr mewn hyfforddi fel y gall wrando a gofyn y cwestiynau anuniongyrchol perthnasol i chi er mwyn dod o hyd i atebion a fydd yn gweithio ichi.

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant er mwyn ichi ddysgu'r sgil o gynnal sgwrs hyfforddi.  Bydd cyfathrebu yn y dull hwn yn eich galluogi i annog eraill i fod yn atebol am eu cyfrifoldebau a dibynnu llai arnoch chi.

Mentora?

Mentor yw rhywun sydd â mwy o brofiad neu wybodaeth mewn tasg neu rôl benodol. Bydd yn arwain ac yn cefnogi'ch datblygiad drwy ddarparu cyngor uniongyrchol.

Mae'n bosibl y bydd mentor yn defnyddio dull arddull hyfforddi os yw'n briodol, ond bydd yn cynnig cyngor uniongyrchol yn ôl yr angen. 

Os hoffech gael gwybod rhagor am sut y gall hyfforddi eich helpu chi i dyfu ac i ddatblygu yn eich gyrfa, neu os oes gennych ddiddordeb gweithio gyda mentor ar faes penodol o waith, cysylltwch â Dysgu a Datblygu.