Cynllunio Asesu a Gofal

Diweddarwyd y dudalen: 30/05/2023

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth (gan gynnwys gofalwyr), ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Côd Ymarfer Rhan 3 yn nodi proses ar gyfer asesu anghenion unigolion am ofal a chymorth, neu gymorth yn achos gofalwyr. Mae Rhan 4, 'Diwallu Anghenion' yn nodi'r meini prawf cymhwystra cenedlaethol a chynllunio gofal (yn cynnwys Taliadau Uniongyrchol). Ewch i côd Ymarfer Rhan 3 a Rhan 4.

Isod, nodir amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant mewn perthynas ag asesu a chynllunio gofal.

Cynllunio Gofal

Yr holl staff gofal yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys Gofal Preswyl a Gofal Cartref.

Mwy o wybodaeth