Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Nid oes unrhyw fath o Gam-drin Domestig, Trais Domestig na Thrais Rhywiol yn dderbyniol ac rydym yn gweithio i sicrhau nad oes neb sy'n dioddef y math hwn o gam-drin yn teimlo'n unig a'u bod yn gallu cael mynediad at yr help a'r cymorth sydd ar gael.

Rhuban Gwyn

Mae gennym bolisi dim goddefgarwch o ran trais a chamdriniaeth ac rydym yn cydnabod nad oes bai ar unrhyw un sy'n dioddef cam-drin; y cyflawnwr sy'n gyfrifol am gam-drin domestig a/neu drais rhywiol.

Ym mis Mai 2022, lansiwyd Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam­drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru ar gyfer 2022 tan 2026.

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar y Sector Cyhoeddus i nodi ac i ddarparu cymorth arbenigol. Fe'i gelwir yn "Gofyn a Gweithredu", ac mae'n annog dioddefwyr i siarad yn gyfrinachol â pherson arall ac yna bod y person hwnnw'n eu helpu.

Mae'r mater hwn yn bwysig i bawb yn ein cymuned ac mae ein staff yn hanfodol o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol am sawl rheswm:

  •    Gall ymyrraeth gynnar leihau effeithiau
  •    Gall trafod y materion helpu i leihau stigma ac arwahanrwydd
  •    Mae'n dangos bod ein gwasanaeth yn rhywle y gellir cael help

Nid yw cadw'n dawel yn helpu. Mae angen llais a chymorth ar ddioddefwyr.

 

O fewn Dysgu a Datblygu, rydym yn hyrwyddo 3 lefel o Hyfforddiant Cam-drin Domestig:

Mae hyn ar gyfer pawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus. Bydd yr hyfforddiant yn darparu'r canlynol:

  •     ymwybyddiaeth sylfaenol o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  •     sut i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
  •     yr help sydd ar gael i ddioddefwyr.

Mae gan yr holl staff mewn Awdurdodau Lleol gyfrifoldeb statudol i gwblhau'r modiwl e-ddysgu hwn

Mae wedi'i anelu at yr holl staff rheng flaen sydd mewn cysylltiad â theuluoedd, plant, a'r cyhoedd mewn amgylchedd lle gellir sylwi ar arwyddion o Gam-drin Domestig/Trais Domestig ac sydd mewn sefyllfa i 'Ofyn a Gweithredu'. Hefyd anogir staff swyddfa i fod yn bresennol, sef y rheiny sy'n gweithio gydag eraill mewn tîm, lle gellir sylwi ar arwyddion posibl o Gam-drin Domestig/Trais Domestig, a gellid cymryd camau i atal sefyllfa rhag gwaethygu.

Bydd yr hyfforddiant yn sicrhau bod unigolion yn gallu:

  •     adnabod yr arwyddion fod rhywun yn cael ei gam-drin
  •     siarad â'r person hwnnw mewn modd sensitif (os yw'n briodol)
  •     cynnig opsiynau a gwasanaethau iddynt yn gyflym ac yn effeithlon.

Gwnewch gais trwy Ffurflen Gais Dysgu a Datblygu

 

Anelir yr hyfforddiant at unigolion mewn rolau y mae gofyn iddynt wneud mwy na "Gofyn a Gweithredu" a'r rheiny sydd â rôl fel "Hyrwyddwyr".

Bydd yr hyfforddiant yn galluogi pobl i wneud y canlynol:

  •     cefnogi cydweithwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â'r meysydd pwnc hyn, helpu i gynnig gwasanaethau i holl aelodau o'r teulu sy'n cael eu heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  •     gweithredu fel hyrwyddwyr yn eu sefydliad.

Er mwyn gweithio'n effeithiol gyda dioddefwyr, mae angen i weithwyr proffesiynol gael dealltwriaeth gyffredin o'r materion a gallu darparu ymateb cydlynol a chyson. Bydd hyrwyddwyr yn helpu i hyrwyddo'r ddealltwriaeth hon ymhlith gweithwyr proffesiynol yn eu hasiantaethau i sicrhau bod anghenion dioddefwyr a'u teuluoedd yn cael eu hystyried wrth ddarparu gwasanaethau yn eu hardal.

Bydd angen i chi fod wedi bod yng Ngrŵp 2 cyn gwneud cais am y rôl hon ac rydym yn eich cynghori'n gryf i siarad â'ch rheolwr llinell ynghylch y Rôl Hyrwyddwr cyn gwneud cais trwy Ffurflen Gais Dysgu a Datblygu