Budd-daliadau Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd y cwrs bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu gwneud y canlynol:

  • Gwirio budd-daliadau a helpu pobl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Deall beth fyddai'n sbarduno cais am Gredyd Cynhwysol ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau etifeddol.
  • Deall cyfnodau asesu a newidiadau mewn amgylchiadau, a sut y maent yn cael effaith ar daliadau hawlydd.
  • Bod yn ymwybodol o'r Cap Budd-daliadau a'r rheol dau blentyn a gallu nodi pryd y gallai teulu gael ei eithrio.
  • Gallu nodi unigolion a allai hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Byw i'r Anabl.
  • Deall y meini prawf ar gyfer gwneud cais llwyddiannus am Lwfans Gofalwr.
  • Gwybod beth i'w wneud os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad anghywir.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn deall y System Budd-daliadau yng Nghymru yn well a byddant yn gallu cefnogi teuluoedd incwm isel wrth ystyried eu sefyllfa ariannol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 diwrnod (dros 2 ddiwrnod yn 09.30yb-12.30yp gydag egwyl)

Cost:

N/A

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.