Rheoli Heintiau

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Holl staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn unrhyw leoliad gofal gan gynnwys y sector annibynnol. Unrhyw staff sy'n helpu pobl hŷn yn eu bywyd pob dydd yn y gymuned.

Beth yw'r amcanion?

  • Sicrhau bod staff yn ymwybodol o arferion da a phwysigrwydd Rheoli Heintiau.
  • Sicrhau technegau da o ran golchi dwylo.
  • Sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth ynghylch y Polisi a'r Weithdrefn o ran Rheoli Heintiau.
  • Sicrhau bod staff yn ymwybodol o achosion Heintiau a'r modd y cânt eu trosglwyddo.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Gan ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth y byddant yn eu dysgu; nod y staff fydd:-

  • Adnabod peryglon a helpu i atal heintiau a salwch rhag lledu.
  • Bydd y staff yn deall eu cyfrifoldebau o ran gweithredu polisïau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau gweithle mwy diogel iddynt hwy a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
  • Er mwyn i staff sicrhau eu harferion da eu hunain a chefnogi eraill i gynnal eu harferion da hwythau.
  • Sylweddoli pwysigrwydd defnyddio'r holl fesurau diogelwch gan gynnwys Cyfarpar Diogelu Personol i leihau'r tebygolrwydd o groeshalogi.

Hyd y cwrs:

Hanner Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.