Cyflwyniad i Gyfweliad Ysgogol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Yr holl staff sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Plant, gan gynnwys Maethu a Mabwysiadu, a'r timau Cam Nesaf.

Beth yw'r amcanion?

Bydd cyfranogwyr yn:

  • Datblygu eu sgiliau gwrando empathetig (OARS)
  • Cael dealltwriaeth well o safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth, a'u grymuso i ddefnyddio eu cryfderau a'u cymhelliant naturiol i wneud newidiadau
  • Bod mewn sefyllfa well i rymuso defnyddwyr y gwasanaeth i deimlo'n barod, yn fodlon ac yn abl i wneud newidiadau i'w hymddygiadau/ffyrdd o fyw
  • Teimlo'n fwy hyderus ac yn fwy cymwys wrth ddefnyddio eu sgiliau cyfathrebu
  • Ymarfer sgiliau cyfweld ysgogol mewn amgylchedd diogel, gan ddefnyddio dulliau i fesur y defnydd 

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd cyfranogwyr yn teimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio eu sgiliau gwrando empathetig i gynyddu'r tebygrwydd o ganlyniadau gwell i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Gellir trosglwyddo'r sgiliau ar draws gwahanol feysydd gwaith.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.