Rheoli a Gweithio mewn Tîm Hybrid
Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2023
Wrth gyflwyno'r Ffyrdd Gwell o Weithio bydd llawer ohonom yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Bydd rhai timau'n gweithio mewn ffordd 'hybrid', a fydd yn golygu eu bod yn y gweithle ychydig o'r amser ac yn gweithio gartref neu'n agos i'w cartrefi ar adegau eraill.
Bydd gweithio yn y modd hwn yn rhoi rhagor o sylw i’n sgiliau, ac efallai y bydd angen inni eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol.
Mae'r tudalennau hyn wedi'u llunio er mwyn dod ag adnoddau ynghyd i'ch cefnogi i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae rhai o'r adnoddau wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi pobl sy'n gweithio o bell, ond bydd nifer ohonynt yn rhoi cyfle ichi feddwl am sut i addasu sgiliau a oedd eisoes yn bwysig.
Os oes gennych unrhyw adborth am y modiwlau hyn, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Trefniadaeth.