Arfarniadau (Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd.)

Diweddarwyd y dudalen: 06/03/2024

Croeso!   

Mae arfarniadau yn eich helpu i wella. Mae ein proses arfarnu yn canolbwyntio ar eich cryfderau. Nod yr arfarniad yw cydnabod gwaith da a llwyddiant, helpu chi a’r gwasanaeth i dyfu drwy edrych ar yr hyn rydych wedi’i wneud yn dda, a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni ein syniadau.

Yn seiliedig ar gryfderau; adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio er mwyn i ni allu gwneud mwy ohono; peidio â cheisio datrys y 'broblem' a symud o'r hyn sydd o'i le, i'r hyn sy'n gadarn, mae’r dull newydd yn golygu:

  • Un darn o bapur (taflen awgrymiadau) i'ch arwain drwy'r broses arfarnu, sydd wedi'i rhannu'n dair thema - Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd.
  • Yn seiliedig ar ein gwerthoedd craidd
  • Syml a defnyddiol
  • Dim mwy o ffurflenni! Gallwch gofnodi hyn ym mha bynnag ffordd y dymunwch.