E-ddysgu ynghylch Gwytnwch Personol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Yr holl Staff

Beth yw'r amcanion?

Mae gweithwyr yn wynebu llawer o heriau yn y gweithle ac mae'n bwysig ein bod yn barod i reoli sefyllfaoedd a allai achosi straen neu fod yn anodd. Bydd y modiwl e-ddysgu hwn yn rhoi trosolwg i chi o ystyr 'gwytnwch', pam y mae'n bwysig yn y gweithle a ffyrdd o'i wella.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae cysylltiad agos rhwng y gallu i ymdopi'n dda mewn sefyllfaoedd anodd neu heriol â'n llesiant. Mae'r modiwl e-ddysgu hwn yn eich annog i adfyfyrio ar y ffactorau sy'n effeithio ar eich gwytnwch personol ynghyd â'r ymddygiadau allweddol sydd eu hangen i fod yn wydn. Drwy ddysgu am yr ymddygiadau allweddol hyn ac awgrymiadau ychwanegol ar feithrin gwytnwch, dylech deimlo'n fwy hyderus i ddelio â sefyllfaoedd heriol yn y dyfodol, gan eich helpu i ofalu am eich llesiant meddyliol a chorfforol. 

 

 

Darllenwch cyn cyrchu'r modiwl.

Mae'r modiwl hwn ar gael ar wefan Learning@Wales ac yn fodiwl 'i'w weld yn unig'.

Os ydych yn dewis cwblhau'r modiwl 'i'w weld yn unig', ni fydd yn cael ei gofnodi ar eich cofnod hyfforddiant. I weld hyn, cliciwch yma [nid oes angen mewngofnodi].

Os ydych am i’r hyfforddiant hwn gael ei gofnodi, agorwch y modiwl trwy ein gwefan Learning@Wales, trwy glicio ar ‘mewngofnodi i e-ddysgu’ [byddwch yn mewngofnodi yn gyntaf].

Hyd y cwrs:

Dylai'r modiwl hwn gymryd tua 10-15 munud i'w gwblhau.

Cost:

Dim cost

Mewngofnodi i e-Ddysgu