Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (FSCG)

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Mae’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi gweithwyr newydd yn ystod cyfnod sefydlu eu cyflogaeth. Mae’n cynnwys yr egwyddorion a’r gwerthoedd, y wybodaeth a’r sgiliau mae gweithwyr eu hangen i wneud eu swydd.

Edrychwch ar y blwch lawrlwytho isod ar gyfer cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd

Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (FSCG)

Pob gweithiwr cymorth ar draws lleoliadau cymunedol ym maes gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n gweithio, yn cefnogi eraill neu'n dymuno gweithio ym mhob lleoliad - sectorau annibynnol/a gomisiynir, darparwyr Awdurdod Lleol, gofal cymunedol a sylfaenol y GIG, cyn-gyflogaeth a phrofiad gwaith, gofalwyr a gwirfoddolwyr.

Mwy o wybodaeth