Cwestiynau Cyffredin - Gweithwyr

Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2023

Os ydych yn gweithio mewn rôl ofalu, yn weithiwr gofal cymdeithasol, neu'n wirfoddolwr yn Sir Gaerfyrddin, gallwch wneud cais am gyrsiau perthnasol Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC) fel un o'r grwpiau isod:

  • Y Sector Annibynnol/Preifat, Gwasanaethau a Reoleiddir ac a Gomisiynir
  • Y Sector Gwirfoddol/y Trydydd Sector
  • Byrddau Diogelu, Mabwysiadu, CAFCASS, Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Cynorthwyydd Personol/Derbynnydd Taliadau Uniongyrchol
  • Gofalwr Cysylltu Bywydau
  • Gweithiwr Gofal/Uwch-weithiwr Gofal/Swyddog Gofal/rolau Cynorthwyydd Gofal
  • Gwarchodwr Plant
  • Gofalwr Maeth
  • Rheolwr/Dirprwy Reolwr/Rheolwr Cynorthwyol
  • Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig
  • Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant
  • Staff Nyrsio Cofrestredig
  • Unigolion sy'n defnyddio Gwasanaethau a Gofalwyr
  • Gofalwyr anffurfiol

Pan fyddwch wedi dod o hyd i gwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo ac sy'n cefnogi eich gofynion dysgu a datblygu, llenwch mewn y ffirflen cais.

Sylwch fod ceisiadau ar gyfer cyrsiau Gofal Cymdeithasol ar gael i weithwyr perthnasol CSC yn y Gwasanaethau Cymunedol a'r Gwasanaethau Plant yn unig, a sefydliadau gofal cymdeithasol allanol o fewn y sector.

Nid oes dyddiadau cwrs wedi'u trefnu ar gyfer pob rhaglen. Fodd bynnag, gallwch fynegi diddordeb a bydd ceisiadau a gymeradwyir yn cael eu hychwanegu at ein system a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd dyddiadau ar gael.

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i wneud cais am gwrs fel un o weithwyr y Cyngor:

  • Rhif gweithiwr y person sy'n gwneud cais
  • Enw'r rheolwr llinell a'i gyfeiriad e-bost CSC
  • Rhesymau dros wneud cais am y cwrs
  • Yr iaith a ffefrir gan yr ymgeisydd
  • Gofynion ychwanegol sydd gan yr ymgeisydd

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu drwy e-bost.

Bydd y system ymgeisio ar-lein ond yn dangos cyrsiau sy'n weithredol agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo wedi'i restru gallwch gofrestru diddordeb gyda'r tîm Dysgu a Datblygu drwy e-bost.

Gellir cael golwg ar yr holl geisiadau sydd wedi'u cyflwyno i chi er mwyn cael penderfyniad drwy'r ddolen yn e-bost y cais neu drwy gael mynediad i'r Caseviewer.

Mae'r Caseviewer yn dangos yr holl e-ffurflenni sydd ar gael i chi ar draws ystod o wasanaethau'r Cyngor, gan gynnwys ceisiadau Dysgu a Datblygu. 

Drwy ddefnyddio'r CaseViewer, gall rheolwyr weld neu barhau â cheisiadau a wneir sy'n aros am benderfyniad.  Bydd ceisiadau Dysgu a Datblygu sy'n aros am benderfyniad yn cael eu dangos dan y tab 'Fy Nhasgau Agored' ar frig y dudalen.

Nac ydy. Mae'r cais rydych wedi'i gyflwyno wedi'i gymeradwyo gan eich rheolwr llinell, ond bydd y Tîm Datblygu Trefniadaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch mynychu'r cwrs, ac yn cadarnhau eich lle.

Os na allwch fynychu cwrs cymeradwy mwyach, anfonwch e-bost at y tîm a'ch rheolwr llinell i ganslo eich lle cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod modd i'n tîm gynnig eich lle i ymgeisydd arall gan fod rhestrau aros ar gyfer cyrsiau.

Mae'n bosibl y codir tâl ar eich adran am bob cwrs a gymeradwywyd. Gweler ein cyfnodau hysbysu.

Cyfnod Hysbysu Efo Cost Heb gost
Mwy na 15 diwrnod gwaith o'r diwrnod cyntaf pan gadarnhawyd lle ar y cwrs Ni fydd tâl Ni fydd tâl
Llai na 15 diwrnod gwaith o'r diwrnod cyntaf pan gadarnhawyd lle ar y cwrs Codi fesul cyfradd hysbysedig1 Ni fydd tâl
Less than 5 working days from start of the course Codi fesul cyfradd hysbysedig1 I gadarnhau ffi weinyddol2
Non-attendance on any course or if you arrive late and are asked not to participate3 Codi fesul cyfradd hysbysedig1 I gadarnhau ffi weinyddol2
Rhoi gwybod am gwrs a ganslwyd Ni fydd tâl Ni fydd tâl

1Ac eithrio bod rhywun arall yn mynd yn eich lle.

2Bydd y Tîm Datblygu Trefniadaeth ond yn derbyn yr eithriadau canlynol o ran diffyg presenoldeb heb godi ffi weinyddol ar eich adran, yn sgil cael hysbysiad gan yr ymgeisydd neu'r rheolwr llinell cyn neu ar ddiwrnod cyntaf cwrs:

      1. Absenoldeb salwch yn unol â Pholisi Absenoldeb Salwch y Cyngor.
      2. Argyfyngau yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau'r Cyngor o ran Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion.
      3. Absenoldeb Tosturiol yn ogystal â Pholisi a Gweithdrefnau'r Cyngor o ran Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion.
      4. Argyfwng/mater arall nad oedd modd ei ragweld yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Amser o’r Gwaith y Cyngor.
      5. Gweithwyr sydd ar rota ar ddiwrnod yr hyfforddiant i gymryd galwadau brys e.e. Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy

3Os bydd y cyfranogwr yn cyrraedd yn hwyr a gofynnir iddi/iddo gan ddarparwr y cwrs i beidio â chymryd rhan bydd hyn yn amodol ar gynnwys cwrs unigol, hyd y cwrs a phenderfyniad yr hwylusydd yn unol â nodau ac amcanion cyffredinol y cwrs. Mae hyn hefyd yn berthnasol os bydd cyfranogwr yn gadael cwrs yn gynnar heb reswm dilys h.y. yn unol ag eithriadau o ran diffyg presenoldeb.

Bydd pob cais a gyflwynwyd wedi'i anfon ymlaen at eich rheolwr llinell ac at y Tîm Datblygu Trefniadaeth.

Siaradwch â'ch rheolwr llinell yn gyntaf ynghylch tynnu eich cais yn ôl, a chysylltwch â'r Tîm Datblygu Trefniadaeth drwy'r e-bost cyn gynted ag y bo modd.

Gall ceisiadau gael eu gwrthod am nifer o resymau, megis:

  • blaenoriaethu lleoedd
  • y cyllid sydd ar gael
  • perthnasedd y dysgu
  • gor-alw ac ati.

Ym mhob achos, rhoddir gwybod i chi pam y gwrthodwyd eich cais. Siaradwch â'ch rheolwr llinell os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Mae cost wahanol i bob cwrs a ddangosir ar y rhestr cyrsiau unigol. Mae rhai cyrsiau yn rhad ac am ddim.

Bydd angen cod cost ar gyfer pob cais cymeradwy, hyd yn oed os yw'r cwrs yn rhad ac am ddim.

Nodwch y canlynol mewn perthynas â chanslo/diffyg presenoldeb:

CYFNODAU HYSBYSU

  • Cyrsiau â chostau hysbysedig - Mae'n bosibl y codir tâl ar eich adran am bob lle ar gwrs sydd wedi'i gadarnhau yn unol â'r hyn a hysbysebwyd. Gweler ein cyfnodau hysbysu i gael rhagor o wybodaeth.

Codir y gost a hysbysebir ar y côd cost a ddarperir yn y cam cymeradwyo. Hyd yn oed os ydych wedi galw eich rheolwr llinell i riportio salwch, argyfwng neu os oes gennych ddyletswyddau brys heb eu cynllunio. Fodd bynnag, efallai y bydd eich rheolwr am enwebu ymgeisydd arall, a fydd yn osgoi codi tâl ar eich adran.

Codir tâl ar eich adran os byddwch chi'n cyrraedd yn hwyr a bydd darparwr y cwrs yn gofyn i chi beidio â chymryd rhan neu adael yn gynnar heb reswm dilys.

Ar gyfer cyrsiau heb gostau wedi'u hysbysebu, codir ffi weinyddu di-bresenoldeb ar eich adran lle rhoddwyd llai na 5 diwrnod o rybudd i'r Tîm Datblygu Sefydliadol gan yr ymgeisydd neu'r rheolwr llinell.

Fodd bynnag, ni chodir y ffi weinyddu arnoch os bydd eich absenoldeb oherwydd salwch, argyfwng neu ddyletswyddau brys heb eu cynllunio.

Cyfnod Hysbysu Efo Cost Heb gost
Mwy na 15 diwrnod gwaith o'r diwrnod cyntaf pan gadarnhawyd lle ar y cwrs Ni fydd tâl Ni fydd tâl
Llai na 15 diwrnod gwaith o'r diwrnod cyntaf pan gadarnhawyd lle ar y cwrs Codi fesul cyfradd hysbysedig1 Ni fydd tâl
Less than 5 working days from start of the course Codi fesul cyfradd hysbysedig1 I gadarnhau ffi weinyddol2
Non-attendance on any course or if you arrive late and are asked not to participate3 Codi fesul cyfradd hysbysedig1 I gadarnhau ffi weinyddol2
Rhoi gwybod am gwrs a ganslwyd Ni fydd tâl Ni fydd tâl

1Ac eithrio bod rhywun arall yn mynd yn eich lle.

2Bydd y Tîm Datblygu Trefniadaeth ond yn derbyn yr eithriadau canlynol o ran diffyg presenoldeb heb godi ffi weinyddol ar eich adran, yn sgil cael hysbysiad gan yr ymgeisydd neu'r rheolwr llinell cyn neu ar ddiwrnod cyntaf cwrs:

      1. Absenoldeb salwch yn unol â Pholisi Absenoldeb Salwch y Cyngor.
      2. Argyfyngau yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau'r Cyngor o ran Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion.
      3. Absenoldeb Tosturiol yn ogystal â Pholisi a Gweithdrefnau'r Cyngor o ran Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion.
      4. Argyfwng/mater arall nad oedd modd ei ragweld yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Amser o’r Gwaith y Cyngor.
      5. Gweithwyr sydd ar rota ar ddiwrnod yr hyfforddiant i gymryd galwadau brys e.e. Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy

3Os bydd y cyfranogwr yn cyrraedd yn hwyr a gofynnir iddi/iddo gan ddarparwr y cwrs i beidio â chymryd rhan bydd hyn yn amodol ar gynnwys cwrs unigol, hyd y cwrs a phenderfyniad yr hwylusydd yn unol â nodau ac amcanion cyffredinol y cwrs. Mae hyn hefyd yn berthnasol os bydd cyfranogwr yn gadael cwrs yn gynnar heb reswm dilys h.y. yn unol ag eithriadau o ran diffyg presenoldeb.

Mae llawer o gyrsiau dysgu a datblygu wedi'u tanysgrifio'n dda, os na fyddwch chi'n mynychu neu'n cyrraedd yn hwyr gall hyn darfu ac amddifadu eraill o'r cyfle i fynychu.

Os byddwch yn methu â mynychu neu'n cyrraedd yn hwyr a gofynnir ichi beidio â chymryd rhan, codir ffi weinyddu ar y cod costau adrannol a ddarperir oni bai bod y Tîm Datblygu Sefydliadol wedi derbyn rhybudd ymlaen llaw.

Ein nod yw cefnogi presenoldeb mewn dysgu lle bynnag y bo modd, felly os ydych chi'n cael problem a fydd yn ei gwneud hi'n anodd i chi ddod, yna cysylltwch â'r Tîm Datblygu Sefydliadol trwy e-bost cyn gynted â phosibl.

Mae manylion y cyrsiau rydych chi wedi'u mynychu yn cael eu cofnodi ar eich cofnod personél canolog gan ein tîm.

Anfonwch eich rhif gweithiwr atom trwy e-bost i ofyn am eich proffil, y byddwn yn ei anfon atoch fel pdf.

Gallwn gynnig ystod o gymorth i chi ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwch eich dewis iaith ar eich ffurflen.

Yn unol â Safonau'r Gymraeg, byddwn yn darparu cyrsiau penodol megis cwrs Sefydlu a chwrs Recriwtio a Dethol drwy gyfrwng y Gymraeg [Safon 128]. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael ac os na allwn ddarparu'r cwrs i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwn yn rhoi cymorth arall ar waith i fodloni eich dewis iaith, megis rhoi adnoddau'r cwrs yn y Gymraeg neu sicrhau eich bod yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith grŵp yn eich dewis iaith. Os hoffech drafod eich anghenion, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Trefniadaeth.

Llwythwch mwy