Hybu Gyrfa a Sgiliau

Diweddarwyd y dudalen: 26/04/2024

Oeddech chi'n ymwybodol bod amryw o ffyrdd i Ddysgu a Datblygu mewn gwaith, a bod llwybrau at swyddi a gyrfaoedd ar bob lefel ac ym mhob maes o fewn ein sefydliad? Cymerwch olwg ar rai o'r sesiynau rydyn ni wedi'u trefnu'r wythnos hon ac efallai y byddwch yn cael eich ysbrydoli i ehangu eich dysgu neu ddilyn llwybr gyrfa newydd? Mae’n gyrsiau wedi eu hanelu at bawb ac mae'r isod i gyd yn rhad ac am ddim i'w mynychu!

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn chwilio am waith, hyfforddiant neu wybodaeth a chefnogaeth, a oeddech chi'n gwybod bod gennym dîm cymorth cyflogaeth a all eich helpu i oresgyn rhwystrau, gan sicrhau bod gennych yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch ar hyd y ffordd? Mae hyn yn cynnwys:

  • Nodi cyfleoedd hyfforddi
  • Rhoi mentor personol i chi a fydd yn eich helpu i adnabod eich sgiliau, a gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gweithredu swydd
  • Helpu i fagu eich hyder
  • Help gydag ysgrifennu CV a chwblhau ceisiadau am swyddi

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar sut y gallant eich cefnogi, ffoniwch 01554 744303 neu anfonwch e-bost at employmentsupport@carmarthenshire.gov.uk

Ac, os ydych chi'n dal mewn trafferth....

Gall y Tîm Dysgu a Datblygu helpu gyda'r canlynol:

  • Cyngor ar sut i ymgymryd â dadansoddi anghenion hyfforddiant.
  • Help i nodi cyfleoedd mentora a/neu hyfforddi priodol.
  • Cyngor ar y dyletswyddau statudol y dylech gwmpasu gyda hyfforddiant eich staff.

Cyngor ar lwybrau priodol o hyfforddiant a uwchsgilio, wrthym ni ein hunain a darparwyr hyfforddiant bob yn ail.