Cyflwyniad i Ddysgu Ymarfer ac Asesu Ymarfer ym maes Gwaith Cymdeithasol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig a chymwysedig ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad o ymarfer ar ôl cymhwyso sydd â diddordeb mewn bod yn 'Addysgwyr Ymarfer' cymwysedig. Mae'n rhaid i weithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso ers Ebrill, 2016 fod wedi cwblhau'n llwyddiannus y Rhaglen Atgyfnerthu cyn iddynt wneud cais. Mae'n gwrs ôl-raddedig 30 credyd ar Lefel Meistr 7. Hefyd mae'r cwrs hwn yn gofyn am asesiad parhaus o fyfyriwr gradd neu radd meistr ym maes gwaith cymdeithasol a fydd yn cael ei leoli yng ngweithle'r ymgeisydd am 80, 90 neu 100 o ddiwrnodau.

Beth yw'r amcanion?

  • Deall a gwerthfawrogi'n feirniadol y cefndir o ran polisi i ddatblygiadau ym maes gwaith cymdeithasol, deddfwriaeth berthnasol, Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a'r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a gofynion ymarfer proffesiynol.
  • Deall a chydnabod pwysigrwydd dulliau dysgu, addysgu a theori dysgu oedolion.
  • Deall a chydnabod effaith gwahaniaethu a chamwahaniaethu, a thrwy hynny hyrwyddo tegwch a chyfiawnder wrth asesu cymhwysedd a dysgu ymarfer.
  • Fel Addysgwr Ymarfer, deall a dangos rôl theorïau, dulliau ac ymchwil yn ymwneud â gwaith cymdeithasol o ran ategu ymarfer gwaith cymdeithasol.
  • Arddangos y gallu i baratoi ar gyfer asesu a goruchwylio myfyrwyr a chyflawni hynny.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'w galluogi i ddod yn Addysgwyr Ymarfer cymwysedig, gan gyfrannu at ddysgu myfyrwyr gwaith cymdeithasol mewn modd cynlluniedig ac effeithiol a thrwy hynny sicrhau bod modd ffurfio barn ddoeth ynghylch cymhwysedd myfyriwr. Hefyd bydd yn rhoi tystiolaeth i weithwyr cymdeithasol o ddatblygiad proffesiynol parhaus er mwyn bodloni gofynion ailgofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

5 Diwrnod

Cost:

Am Ddim

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.