Hyfforddiant DBS – Datgeliad

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Y grŵp targed ar gyfer yr hyfforddiant hwn yw swyddogion Adnoddau Dynol sy'n gyfrifol am y maes dan sylw, rheolwyr gwasanaethau ac unrhyw un sy'n recriwtio staff i weithio mewn gwasanaethau cofrestredig. Mae gwiriad DBS yn wiriad o gofnodion troseddol sy'n rhan o'r broses recriwtio, ac mae'r hyfforddiant hwn yn berthnasol i unrhyw un sy'n ymwneud â recriwtio a rheoli staff. 

Beth yw'r amcanion?

Gweithdy Cymhwysedd a Datgelu

  • Cyflwyniad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Deall manteision chi (sefydliad) a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gweithio gyda'ch gilydd
  • Deall y gwahanol lefelau o wiriadau DBS
  • Deall pryd mae gweithiwr yn gymwys i gael gwiriad
  • Deall beth yw ystyr Gweithgaredd a Reoleiddir
  • Deall Gwasanaeth Diweddaru'r DBS
  • Deall pa arferion recriwtio diogel y gall gwiriadau DBS fod yn rhan ohonynt.
  • Cwis gwaredu'r mythau

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae deall a defnyddio'r broses gywir wrth recriwtio staff yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch pobl a allai fod yn derbyn gwasanaethau. Bydd y cwrs hwn yn diweddaru gwybodaeth am y broses atgyfeirio a gwahardd, yn enwedig yn dilyn profiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf pan fu'n rhaid i wasanaethau weithredu o dan amgylchiadau anodd ac eithriadol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1.5 Hours

Cost:

No Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.