Hyfforddiant DBS – Gwahardd:

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Y grŵp targed ar gyfer yr hyfforddiant hwn yw swyddogion Adnoddau Dynol sy'n gyfrifol am y maes dan sylw, rheolwyr gwasanaethau ac unrhyw un sy'n recriwtio staff i weithio mewn gwasanaethau cofrestredig. Mae gwiriad DBS yn wiriad o gofnodion troseddol sy'n rhan o'r broses recriwtio, ac mae'r hyfforddiant hwn yn berthnasol i unrhyw un sy'n ymwneud â recriwtio a rheoli staff. Dylid mynychu'r gweithdy Gwahardd ar ôl y cwrs Cymhwysedd i sicrhau dealltwriaeth lawn o'r broses ac wrth wneud cais i ychwanegu rhywun at y rhestr genedlaethol o unigolion sydd wedi'u gwahardd.   

Beth yw'r amcanion?

Gweithdy Gwahardd:

  • Deall manteision chi (cyflogwr) a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gweithio gyda'ch gilydd
  • Deall y tri llwybr atgyfeirio gwahanol
  • Deall pryd y dylid gwneud atgyfeiriad Gwahardd i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gan gynnwys pan fydd y ddyletswydd gyfreithiol wedi'i chyflawni
  • Deall Gweithgaredd a Reoleiddir / Prawf Niwed ac Ymddygiad Perthnasol
  • Deall sut i wneud atgyfeiriad o ansawdd da
  • Dealltwriaeth glir o ganlyniadau peidio â gwneud atgyfeiriadau gwahardd priodol a chanlyniadau cael eich cynnwys mewn un neu'r ddwy Restr Waharddedig
  • Cwis gwaredu'r mythau

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Deall a defnyddio'r broses gywir wrth wahardd unigolion ar ôl iddynt orfod cael eu diswyddo ar sail camymddwyn amhroffesiynol neu hyd yn oed yn anghyfreithlon. Gall hyn fod yn gam a argymhellir, yn dilyn, er enghraifft, ymchwiliadau i staff yng nghyd-destun diogelu ac amddiffyn eraill rhag niwed. Unwaith eto, mae'n hanfodol sicrhau diogelwch pobl a allai fod yn derbyn gwasanaethau a bydd y cwrs hwn yn diweddaru gwybodaeth am y broses atgyfeirio a gwahardd.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2 Hours

Cost:

No Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.