Arweinyddiaeth Dosturiol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Holl reolwyr Gwasanaethau Plant, Rheolwyr Cynorthwyol, gan gynnwys gwasanaethau preswyl a seibiant, y trydydd sector/sector annibynnol.

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd yr hyfforddiant bydd y cyfranogwyr wedi cyflawni'r canlynol:

  • Archwilio beth yw Arweinyddiaeth Dosturiol a bod yn hyderus wrth ei roi ar waith.
  • Archwilio sgiliau gwrando cyson, dealltwriaeth, cydymdeimlo a helpu o fewn rheolaeth ac arweinyddiaeth
  • Archwilio diogelwch seicolegol fel dull o weithio iddyn nhw eu hunain a'r staff y maen nhw'n eu rheoli
  • Archwilio'r cysylltiadau rhwng arweinyddiaeth dosturiol , seicoleg bositif ac ymwybyddiaeth ofalgar
  • Archwilio rôl myfyrio wrth gefnogi eu harweinyddiaeth dosturiol

Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i ddatblygu rhai sylwadau ar arweinyddiaeth dosturiol a fydd yn cael eu defnyddio fel offer dysgu o fewn ail hanner yr hyfforddiant

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cynrychiolwyr yn fwy gwybodus i gyflawni eu rolau rheoli

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.