Digwyddiadau a Gweithgareddau

Diweddarwyd y dudalen: 07/02/2023

Fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau ein fod yn weithle hapus ac iach i bawb, rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau diddorol sydd â'r nod o gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd a'ch lles.

Isod cewch wybodaeth am ein digwyddiadau a'n gweithgareddau diweddaraf.

15/01/2024 Ffair Iechyd a llesiant

Ymunwch â ni ar gyfer ein Ffair Iechyd a Llesiant 2024 o Ddydd Llun 15eg - Dydd Gwener 26ain o Ionawr.

Mae ein hamserlen o ddigwyddiadau yn sicr a sesiwn i ennyn diddordeb pawb. I ymuno, ewch i'n amserlen a lawrlwythwch yr i-calendar i'ch calendr Outlook. Bydd pob sesiwn ar gael i ymuno â nhw ar y diwrnod ar y Tudalennau Beth Sydd Ymlaen! Cofiwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein calendr gan y byddant yn cael eu diweddaru'n ddyddiol.

Sylwch fod sesiynau Actif trwy Vimeo/ Zoom ac i fynychu'r rhain rhaid i chi gysylltu â TG i gael mynediad i Zoom yn ystod y cyfnod hwn.

17/01/2023 - Her Llesiant: Ffotograffiaeth y Gaeaf

Mae'r Tîm Iechyd a Llesiant wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd ar gyfer y Gaeaf.

Y nod yw tynnu llun golygfaol yn y sir wrth fynd allan a mwynhau awyr iach ac ymarfer corff rhwng 17 Ionawr a 22 Chwefror, 2023.

Gwobr:

Bydd y ceisiadau yn cael eu lleihau i restr fer o bump gan dîm dylunio ac argraffu'r cyngor a bydd yr enillydd terfynol yn cael ei ddewis gan Cynghorydd Philip Hughes. 

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Chwefror.

Bydd y llun buddugol yn cael ei gynnwys fel un o'n cefndiroedd thematig Teams i'r holl staff ei ddefnyddio. Bydd yr enillydd hefyd yn cael anrheg bach yn cynnwys cynnyrch lleol. 

Edrychwch ar y canllawiau isod i'ch helpu chi.

E-bostiwch eich cynnig at health&wellbeing@sirgar.gov.uk erbyn 12pm ar 22 Chwefror, 2023.

Pob lwc a mwynhewch ddarganfod Sir Gâr y Gaeaf hwn! 

Meini Prawf Beirniadu:

  1. Y WAW ffactor – ydy'r llun yn arddangos y sir mewn golau cadarnhaol ac yn arddangos y lle rydych chi'n mynd fel rhan o'ch llesiant.
  2. Cyfansoddiad a sgìl y llun.

Ychydig o ganllawiau ar gyfer tynnu lluniau:

  • Mae llun wedi gwneud ei waith os gallwch chi ddeall beth yw pwrpas y neges drwy edrych ar y llun yn unig.
  • Rhaid peidio â chynnwys pobl yn y llun.
  • Dylai popeth yn y llun fod yn berthnasol. Ceisiwch osgoi cefndiroedd anniben a delweddau disglair sy'n medru tynnu sylw.
  • Edrychwch o'ch amgylch ac ystyriwch eitemau neu eirfa ar arwyddion y gellir eu defnyddio mewn modd negyddol.
  • Ceisiwch osgoi rhesi a defnyddiwch onglau amrywiol yn lle hynny. Bydd rhesi lletraws yn rhoi mwy o ddyfnder i lun. Gall sefyll ar arwyneb uwch neu benglinio roi gwell dewisiadau i chi hefyd.
  • Meddyliwch am leoliadau, goleuadau ac amseru – e.e., ni fydd lluniau awyr agored ddiwedd y prynhawn yn ystod y gaeaf yn gweithio.
  • Tynnwch ddetholiad o luniau i roi dewis i chi'ch hun.

E-bostiwch eich cais i iechyd&llesiant@sirgar.gov.uk erbyn 12pm ar Chwefror 22, 2023.

Edrychwch ar y uwchlwythiadau diweddar yma.

Sut i ddod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Bydd ein cwrs nesaf i ddod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn cael ei gynnal ar 6 Rhagfyr a 13 Rhagfry rhwng 9:30-12:30. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â'n  Tîm Iechyd a Llesiant i gael rhagor o wybodaeth am ddod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ddydd mawrth Tachwedd 1af am 12:30.

To join the meeting, click the link below. 

Ymunwch

Noder: Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r cwrs nesaf ym mis Rhagfyr yw Tachwedd 7fed. Ewch i Gwybodaeth i Ymgeiswyr am fwy o wybodaeth, i wneud cais i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Amser i Newid Cymru

Rydym hefyd yn eich gwahodd i ymuno â ni i gael e-sgwrs ddydd Iau Tachwedd 17eg am 9:30am gydag Amser i Newid Cymru. Nod y cyflwyniad hwn fydd rhoi gwybodaeth am iechyd meddwl dynion, stigma iechyd meddwl a beth allwn ei wneud i ofalu am ein hiechyd meddwl.

I lawrlwytho'r i-calendr Outlook Clicwch yma

Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod 

E-sgwrs am y Menopos gyda’r Tîm Menopos.

I gydnabod Diwrnod Menopôs y Byd, ddydd Iau 27 Hydref am 14:00, ymunwch â Jayne Thomas o’r Tîm Menopos am gyflwyniad ar y Menopos. Bydd y sgwrs yn para naw deg munud ac yn cynnwys y canlynol;

    • Ffeithiau a ffigurau sy'n dangos y sefyllfa bresennol o ran y menopos,
    • Esboniad o'r menopos,
    • Y symptomau cysylltiedig ac atebion posibl,
    • Rheoli'r menopos a'r proffesiwn meddygol,
    • Pwysigrwydd hunanofal ac ystyriaethau hunanofal,
    • Astudiaethau achos,
    • Beth allwn ni i gyd ei wneud i wella'r sefyllfa o ran y menopos?
    • Cyfeirio at adnoddau sy'n ymwneud â'r menopos.

I lawrlwytho'r i-calendr Outlook Clicwch yma

Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod 

11/07/2022 - Her Arferion Iach

 

Ymunwch â'n Her Arferion Iach lle rydym yn annog pobl i gyfnewid arferiad di-fudd. 

Gall fod yn newid bach iawn rydych chi'n ei roi ar waith am wythnos. 

Gallwch ddewis un gweithgaredd o'r awgrymiadau isod a cheisio gwneud hyn bob dydd am wythnos neu gallwch ddewis un gwahanol!

Mae hyn yn ymwneud â gweld sut y gall newid bach yn eich trefn ddyddiol wneud byd o les ar gyfer eich iechyd a'ch llesiant!

Gweler rhai enghreifftiau i'ch helpu chi i ddechrau a lawrlwytho'ch Dalen Her Gwaith a Bywyd eich hun a herio'ch hun!

07/07/2022 - LHDTRCA+ Pride e-sgwrs

 

Ymunwch â Stonewall Cymru ddydd Iau 7 Gorffennaf am 12:30 i gael e-sgwrs ar LGBQTIA+. Bydd yr e-sgwrs yn cwmpasu rhai ystadegau a thermau pwysig yn ogystal â rhai awgrymiadau ar y ffordd orau o ofalu am ein hiechyd meddwl.

08/06/2022 -E-sgwrs am Niwroamrywiaeth

 

Ymunwch â Corinne Cariad ddydd Mercher 8 Mehefin am 12:30 i gael cyflwyniad ar Niwroamrywiaeth. Yn ystod y sgwrs bydd hi'n rhoi trosolwg ar awtistiaeth ac Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio (ADHD) yn ogystal â sut i gefnogi cydweithwyr niwroamrywiol yn y gweithle. Drwy ddysgu mwy am niwroamrywiaeth gallwn helpu i leihau'r stigma a'r syniad bod rhywbeth 'o'i le' gyda'r person hwnnw. Gall deall a chroesawu niwroamrywiaeth mewn cymunedau, ysgolion a gweithleoedd eu gwneud yn fwy cynhwysol i bawb.

28/02/2022 - 06/03/2022 - Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022

 

Yng ngoleuni Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, ymunwch â'r tîm Iechyd a Lles gydag un o'n haelodau staff ein hunain ac un o’n Hyrwyddwyr Iechyd a Lles, gan rannu eu profiad eu hunain o fyw gydag anhwylder bwyta ar Fawrth 3ydd 2022 am 12:30pm trwy e-chat.

16/02/2022 - E-Sgwrs 'Styried bod yn Sobor?

 

Ymunwch â'n Tîm Iechyd a Llesiant ddydd Mercher, 16 Chwefror am 12:30 i drafod beth mae'n ei olygu i fod yn sobr am fwy o amser.

Byddwn yn siarad am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd am barhau i fod yn sobr yn y flwyddyn newydd, manteision torri i lawr neu roi'r gorau i alcohol a sut i ddelio â digwyddiadau cymdeithasol. Mae'r drafodaeth hon yn agored i unrhyw un sy'n dymuno ailosod eu perthynas ag alcohol.

Ewch i'n tudalennau mewnrwyd i gael rhagor o Gymorth a Chefnogaeth.

04/11/2021 - Ymwybyddiaeth o Straen E-Sgwrs

 

Roedd y trafodaeth e-sgwrs ynghylch ymwybyddiaeth o straen a'r gwahanol ffyrdd y gallwn helpu i reoli ein lefelau straen. Roedd hyn yn gyfle i chi, fel gweithwyr yr awdurdod, i rannu, trafod ac ysbrydoli eraill gyda syniadau ac awgrymiadau defnyddiol ar sut rydych chi wedi ymdopi â straen yn ystod y pandemig a thu hwnt.

Os hoffech gael recordiad o'r sesiwn, e-bostiwch Health&Wellbeing@sirgar.gov.uk ac byddwn yn anfon y ddolen drosodd.

 

28/10/2021 - Sgwrs ar Menopos

 

I gydnabod Diwrnod Menopos y Byd, gwnaethom gynnal sgwrs am y menopos gan ein Hyrwyddwr Iechyd a Lles ein hunain, Gillian Grennan-Jenkins.

Gwnaethom annog pawb i fynd i'r sgwrs, gan ei fod yn gyfle gwych i unigolion sydd â symptomau, yn ogystal â rheolwyr a chydweithwyr, i ddeall proses a symptomau'r menopos, er mwyn darparu'r cymorth gorau i'r rhai sydd ei angen.

Os hoffech gael recordiad o'r sesiwn, e-bostiwch Health&Wellbeing@sirgar.gov.uk ac byddwn yn anfon copi drosodd.

 

12/10/2021 - Amser i Newid Cymru 'Fy Stori Iechyd Meddwl.'

 

I gefnogi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, rydym wedi trefnu bod tîm Amser i Newid Cymru yn rhoi cyflwyniad o'r enw 'Fy Stori Iechyd Meddwl'. Mae'r sgwrs yn cynnwys cyflwyniad gwrth-stigma, a gyflwynir gan un o Hyrwyddwyr Amser i Newid, lle rhannodd profiad personol eu hunain o afiechyd meddwl.

I ddysgu mwy am Amser i Newid ewch i'w gwefan. I weld y cyflwyniad, cliciwch yma.

 

22/09/2021 - Bore Coffi Rhithwir Macmillan

 

Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran yn y Bore Coffi Rhithwir Macmillan! Gobeithio fod pawb wedi cael llawer o gacen, coffi ac wedi gallu rhoi trwy wefan Macmillan. Cafodd Canolfan Ddydd Manor Road ar gyfer Anableddau Dysgu, Rhydaman, fore coffi hefyd ac roedd yr arian a godwyd yn cynnwys rhoddion gan Gwasanaethau Anabledd Dysgu eraill yng Nghaerfyrddin. Codwyd £75.54 ar gyfer Macmillan a codwyd Hosbis Tŷ Bryngwyn, Llanelli, £438.00. Da iawn i bawb a gymerodd ran!

Cliciwch yma i weld lluniau gan y Tîm Lles Gweithwyr, y Tîm Archwilio Mewnol, y Tîm Dysgu a Datblygu a'r Tîm Safonau Masnach o'u boreau coffi neu cliciwch yma i weld y lluniau o Bore Coffi Macmillan Canolfan Dydd Manor Road! Gweld a allwch chi ei weld eich hun!

 

Iechyd a Llesiant