Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Diolch am eich diddordeb mewn bod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Dylai'r daflen wybodaeth hon roi trosolwg clir i chi o'r broses a'r amserlen i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig. 

Dylech ystyried y rôl hon yn ofalus cyn gwneud cais, ac os byddwch yn penderfynu nad yw'r rôl yn addas i chi ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni. 

Pan fyddwch wedi darllen y daflen wybodaeth hon a Rol y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, cam nesaf y broses fydd llenwi a chyflwyno ffurflen archebu ar-lein.

Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch cais, bydd eich rheolwr yn cael gwybod a byddwch yn cael rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am y rôl. Dylai eich rheolwr gysylltu â chi i drefnu sgwrs i sicrhau bod y ddau ohonoch yn cytuno eich bod yn addas ar gyfer y rôl.  

Sylwch, oherwydd natur y rôl hon, efallai y bydd eich rheolwr yn teimlo nad ydych yn gwbl addas i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Dylech fod yn barod i gael sgwrs agored a gonest gyda'ch rheolwr am eich addasrwydd ar gyfer y rôl cyn bwrw ymlaen. 

Mewn achosion lle gallech chi neu'ch rheolwr fod yn ansicr ynghylch eich addasrwydd ar gyfer y rôl, bydd sesiwn galw heibio ar ffurf holi ac ateb gyda Chydgysylltydd y Rhaglen ar gael. 

Pan fydd eich cais wedi'i gymeradwyo, cewch wahoddiad i fynychu cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion ardystiedig a ddarperir gan Ajuda. Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein a bydd yn cynnwys 5 modiwl e-ddysgu hunangyfeiriedig a dwy weminar fyw 3 awr gyda hyfforddwr cymwysedig. 

Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu rhai o'r prif gyflyrau iechyd meddwl yn ogystal â sut i gael sgyrsiau agored am iechyd meddwl, sut i ddelio ag argyfwng iechyd meddwl a sut i gyfeirio rhywun mewn angen yn briodol. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am gynnwys a strwythur y cwrs yma. 

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn dod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig a byddwch yn derbyn tystysgrif a fydd yn ddilys am 3 blynedd. Byddwch hefyd yn derbyn copi ar-lein o'r llawlyfr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol. 

Unwaith y byddwch yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl cymwysedig, cewch eich croesawu i rwydwaith Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yr Awdurdod. Byddwch yn cael cyfle i ymuno ag un o'r sesiynau cymorth lle cewch gyfle i gyfarfod â'r Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl eraill yn yr Awdurdod a gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Bydd hyn yn cynnwys cael eich ychwanegu at grŵp caeëdig o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar Teams. Bydd hyn yn cynnig lle diogel i Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl leisio unrhyw bryderon, ôl-drafod, a rhannu profiadau yn gyfrinachol. Mewn achosion lle gallai fod angen cymorth ychwanegol ar Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, trefnir hyn. 

 

Iechyd a Llesiant