Osgoi Gorflinder

Diweddarwyd y dudalen: 25/05/2023

Mae gorflinder yn golygu blinder emosiynol, corfforol a meddyliol sy'n cael ei achosi gan straen gormodol ac estynedig yn y gweithle. Mae'n digwydd pan fyddwch yn cael eich llethu, yn teimlo'n ddi-egni'n emosiynol, ac na fyddwch yn gallu bodloni gofynion cyson. Wrth i'r straen barhau, byddwch yn dechrau colli'r diddordeb a'r ysgogiad a oedd gennych wrth ymgymryd â rôl benodol yn y lle cyntaf. 

Mae gorflinder yn lleihau'ch cynhyrchiant a'ch egni, sy'n golygu eich bod yn teimlo'n fwy diymadferth, anobeithiol, sinigaidd a digofus. Yn y diwedd, efallai y byddwch yn teimlo na allwch wneud unrhyw beth mwy. 

Mae gorflinder yn cael effeithiau negyddol ar bob agwedd ar fywyd - gan gynnwys eich bywyd cartref, gwaith a chymdeithasol. Gall hyn hefyd achosi newidiadau hirdymor i'ch corff sy'n eich gwneud yn agored i salwch megis annwyd a ffliw. 

Arwyddion o Orflinder 

  • Teimlo'n flinedig ac yn ddi-egni y rhan fwyaf o'r amser 
  • Imiwnedd gwaeth, salwch rheolaidd 
  • Pen tost rheolaidd neu boen yn y cyhyrau 
  • Newid mewn archwaeth neu gwsg 
  • Tynnu'n ôl o gyfrifoldebau 
  • Ynysu eich hun oddi wrth eraill 
  • Cymryd mwy o amser i gyflawni pethau
  • Defnyddio bwyd, cyffuriau, neu alcohol i ymdopi 
  • Gadael i'ch rhwystredigaethau effeithio ar eraill 
  • Osgoi gwaith neu ddod i mewn yn hwyr a gadael yn gynnar 
  • Teimlad o fethiant a hunanamheuaeth 
  • Teimlo'n ddiymadferth, yn gaeth neu'n ddrylliedig. 
  • Datgysylltiad, teimlo'n unig yn y byd
  • Colli hunangymhelliant  
  • Ymagwedd fwyfwy sinigaidd a negyddol 
  • Llai o foddhad ac ymdeimlad o gyflawniad 

 

 

Sut i osgoi Gorflinder 

Mae llawer o fesurau rhagweithiol y gallwn eu cymryd i helpu i osgoi gorflinder. Newidiadau bach yw'r rhain fel arfer nad ydynt yn cymryd llawer o amser nac ymdrech i'w gweithredu.  

  • Rhestru'r manteision a'r anfanteision.  
  • Cymryd amser i ffwrdd.  
  • Meithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol. 
  • Dod o hyd i gydbwysedd yn eich bywyd.  
  • Ceisio gweld gwerth yn eich gwaith.  
  • Gwneud ffrindiau newydd. 
  • Cysylltu ag achos neu grŵp cymunedol sy'n ystyrlon i chi'n bersonol.
  • Bod yn fwy cymdeithasol â'ch cydweithwyr.   
  • Cysylltu â'r rheiny sydd agosaf atoch.

We have also put together the following guidance to help you to more effectively manage your workload.

Dewch â'ch Dyfais eich hun (BYOD) 

Bydd cael mynediad i'r gwasanaethau hyn ar eich dyfais eich hun yn cynnig llawer o fanteision. Fodd bynnag, er mwyn gallu gwneud y defnydd gorau o'r broses Dewch â'ch Dyfais eich Hun, cynghorir eich bod yn dilyn yr arferion gorau canlynol:  

Osgoi agor yr ap y tu allan i'ch oriau gwaith 

Gall gwirio negeseuon e-bost a hysbysiadau eraill y tu allan i oriau gwaith eich sbarduno i feddwl am waith, hyd yn oed os nad ydych yn ymateb. Yr arfer gorau yw defnyddio'r ap fel y byddech yn defnyddio cyfrifiadur, gan ei ddiffodd ar ddiwedd y dydd. Bydd hyn o fudd i'ch llesiant drwy gadw llinell glir rhwng gwaith a bywyd, gwella'ch cwsg a'ch helpu i fod yn effro ac yn gynhyrchiol ar gyfer y diwrnod canlynol.  

Diffodd hysbysiadau  

Yn gysylltiedig â'r uchod, mae diffodd eich hysbysiadau yn golygu eich bod yn llai tebygol o glicio ar yr eicon pan nad ydych yn gweithio. Os oes angen ichi droi'r hysbysiadau ymlaen, diffoddwch nhw ar ddiwedd y dydd yn yr un modd ag y byddech yn diffodd eich cyfrifiadur. Hyd yn oed os nad ydych yn agor yr ap, efallai y byddai gweld nifer o hysbysiadau ar yr ap yn eich gwneud i deimlo o dan bwysau.  

Osgoi anfon negeseuon e-bost neu negeseuon y tu allan i oriau gwaith 

Os ydych yn cofio rhywbeth wrth eistedd a gwylio'r teledu neu wrth fod allan am dro, gall fod yn demtasiwn anfon neges neu neges e-bost yn gyflym er mwyn anghofio amdani. Ond gall hyn gael effaith negyddol ar bobl eraill, hyd yn oed os ydych yn dweud wrthynt nad ydych yn disgwyl iddynt ymateb tan oriau gwaith.  

Yr arfer gorau yw ysgrifennu'r neges ar ddarn o bapur a'i adael gyda'ch dyfais ar gyfer y diwrnod gwaith nesaf. Bydd hyn hefyd yn eich atal rhag dechrau sgyrsiau sy'n seiliedig ar waith â chydweithwyr y tu allan i oriau gwaith neu gael eich denu i wneud gwaith arall. Os byddai'n well gennych ysgrifennu neges ddrafft o'r neges e-bost, arbedwch y neges yn y ffolder drafftiau neu sicrhewch fod oedi cyn yr anfonir y neges.  

Lleihau Nifer y Negeseuon E-bost 

Gall hyn gael effaith negyddol ar ein llesiant, er enghraifft gall wneud ichi deimlo fel nad ydych yn gwneud eich swydd yn dda, drwy beidio â darllen eich negeseuon e-bost i gyd neu efallai oherwydd bod pethau wedi cael eu colli neu wedi cael eu gwneud yn anghywir. Gall hefyd wneud ichi deimlo eich bod wedi eich llethu ac wedi eich gorlwytho, gan achosi ichi 'rewi' (ac nad ydych yn gwybod beth i'w wneud nesaf). Gall hefyd beri rhwystredigaeth os ydych yn teimlo bod negeseuon e-bost yn amharu ar flaenoriaethau penodol yn eich rôl. Mae ceisio cadw trefn ar negeseuon e-bost yn gallu arwain at deimlo bod angen ichi weithio y tu allan i oriau hyblyg er mwyn teimlo bod gennych reolaeth dros y gwaith. Yn olaf, mae ymateb i negeseuon e-bost yn gyflym yn gallu arwain at drosglwyddo gwybodaeth anghywir i'r derbynnydd, sydd yn ei dro yn gallu arwain at gamddehongli a gwrthdaro o bosibl. 

Felly, beth allwn ni ei wneud?  

Yn gyntaf, dylid dechrau trafodaeth mewn tîm ynghylch negeseuon e-bost a chyfathrebu ehangach. Gofynnwch i'ch rheolwr os gallant gynnal cyfarfod tîm ynghylch cyfathrebu, gyda'r nod o greu 'siarter' neu 'gytundeb' o fewn y tîm ynghylch y ffordd orau o gyfathrebu â'ch gilydd gan gynnwys pryd sydd orau i ddefnyddio negeseuon e-bost, Teams, codi'r ffôn ac ati. Bydd hyn yn wahanol i bob tîm ond yn gyffredinol dylai'r cytundeb ganolbwyntio'n gadarnhaol ar y canlynol:  

  • Galluogi staff i reoli eu hamser yn well 
  • Trafod beth yw'r negeseuon hanfodol, a beth sydd angen ei gofnodi 
  • Trafod pwy sydd angen cael copïau o negeseuon e-bost a phryd (a pham)
  • Trefnu hyfforddiant rhwng cyfoedion neu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer y rheiny sydd angen cael cymorth TG neu hyder i ddefnyddio'r ffôn 
  • Cytuno ynghylch amser ymateb i negeseuon e-bost o fewn y tîm a thu allan i'r tîm (gan drefnu negeseuon ymateb awtomatig lle bo hynny'n berthnasol)  

 

Iechyd a Llesiant