Straen, Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol

Diweddarwyd y dudalen: 04/03/2024

Mae cysylltiad agos iawn rhwng straen, iechyd meddwl a llesiant emosiynol ac maent i gyd yn brif ffactorau wrth ystyried ein hiechyd a'n llesiant yn gyffredinol. Mae ein gallu i ddelio â gofynion a phwysau bywyd bob dydd yn hanfodol i gynnal ein llesiant ac i leihau'r risg o ddatblygu iechyd meddwl gwael. Mae gormod o bwysau emosiynol neu feddyliol yn gallu cyfyngu ein gallu i ymdopi felly mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r hyn y gallwn ei wneud i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n llesiant emosiynol, ac yn ei dro, aros yn hapus ac yn iach.  

Bydd y tudalennau canlynol yn darparu rhagor o wybodaeth ichi am straen, iechyd meddwl a llesiant emosiynol. Dylai'r wybodaeth hon eich galluogi i ddeall pwysigrwydd y ffactorau hyn ymhellach o ran gofalu am eich llesiant, yn enwedig yn y gweithle, a bydd y wybodaeth yn rhoi ichi'r canllawiau a'r cyngor perthnasol sydd ar gael ichi os byddwch yn teimlo bod angen rhagor o gymorth arnoch.  

 

 

Iechyd a Llesiant