Straen

Diweddarwyd y dudalen: 19/05/2022

Beth yw Straen? 

Ymdeimlad o fod o dan ormod o bwysau yn feddyliol neu'n emosiynol yw straen. Mae peth straen yn hanfodol wrth fyw o ddydd i ddydd ond mae rhoi gormodedd o straen ar allu unigolyn i ymdopi yn gallu arwain at anawsterau seicolegol gan gynnwys straen neu gyflyrau iechyd meddwl megis gorbryder neu iselder os yw'r pwysau'n parhau. Yr adwaith andwyol a gaiff pobl i bwysau gormodol neu fathau eraill o ofynion sy'n cael eu rhoi arnynt yw straen. 

Arwyddion o Straen  

Yn aml gall yr arwyddion canlynol ddangos bod unigolyn o bosib yn dioddef o straen: 

  • Newid o ran ymddygiad ac agwedd at waith 
  • Newid o ran perthynas â chydweithwyr/bywyd gartref 
  • Diffyg canolbwyntio 
  • Rheoli amser: Cyrraedd yn hwyrach neu'n gadael yn gynharach na'r arfer
  • Bod yn bell ei ffordd
  • Hunanfeddyginiaethu e.e. yfed mwy o alcohol
  • Bod yn llai cynhyrchiol
  • Absenoldeb salwch – pennau tost, anhwylderau'r stumog, problemau â'r gwddf a'r cefn 
  • Cynnydd o ran absenoldebau salwch 
  • Cilio rhag agweddau cymdeithasol y gwaith 
  • Methu â chadw at derfynau amser 
  • Anhawster i wneud penderfyniadau 
  • Troi'n ddadleugar â chydweithwyr 
  • Pyliau emosiynol/newidiadau mewn hwyliau 
  • Diffyg cymhelliant ac ymrwymiad 

Gall arwyddion o straen amlygu eu hunain mewn timau, yn enwedig cyn neu yn ystod y canlynol:  

  • newidiadau mawr o ran llwyth gwaith 
  • cyfnodau hir o waith sy'n gofyn llawer yn emosiynol 
  • ad-drefnu/ailstrwythuro
  • newidiadau i rolau/cyfrifoldebau 
  • newidiadau o ran llinellau atebolrwydd 
  • cyflwyno trefniadau gwaith newydd 
  • gweithredu gweithdrefnau disgyblu/gweithdrefnau medrusrwydd   

Gweithwyr 

Os ydych chi wedi profi unrhyw un o'r arwyddion uchod neu'n teimlo eich bod o bosib yn dioddef o straen, neu yn syml, bod gormod o bwysau ar eich ysgwyddau, siaradwch â'ch rheolwr. Rydym wedi datblygu Asesiad Straen Unigol (gweler gwybodaeth bellach isod), y mae modd ichi ei gwblhau i'ch helpu chi i nodi straen penodol. Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau'r asesiad hwn gyda'ch rheolwr. 

Rheolwyr 

Nid yw hi bob amser yn rhwydd adnabod yr arwyddion bod eich tîm neu fod unigolion yn cael eu llethu. Yn y lle cyntaf, gall y wybodaeth ar ein tudalennau eich cefnogi gyda hyn. Gall ein gweithdai Rheoli Straen yn y Gweithle hefyd eich helpu i adnabod bod straen yn broblem a rhoi cyngor i chi ar gamau priodol y gellir eu rhoi ar waith.   

Delio â Straen 

Mae'n bwysig delio â straen o ran rheoli ac arwain. Yn aml gall hyn olygu cynnal trafodaethau anodd â staff ond gall ymyrraeth gan reolwyr, yn enwedig ymyrraeth gynnar yn hytrach na pheidio â gweithredu, fod yn allweddol i atal absenoldebau salwch a hwyluso'r broses o ddychwelyd i'r gwaith. 

Rydym yn argymell eich bod yn rhagweithiol wrth ddelio â straen o fewn timau a chydag unigolion. Ni ddylid aros nes bod aelod o staff yn sâl neu fod perfformiad y tîm wedi dirywio. 

Materion personol sy'n achosi straen 

Mae'n ddealladwy os ydych yn teimlo nad eich cyfrifoldeb chi yw unrhyw broblemau straen sydd gan unigolyn os nad ydynt yn gysylltiedig â’r gwaith. Ond, os yw digwyddiadau ym mywyd personol yr aelod o staff yn dechrau effeithio ar ei berfformiad neu ei bresenoldeb yn y gweithle, yna, mae'n fuddiol i chi a’r aelod o'ch tîm eich bod yn ymyrryd yn y sefyllfa a chynnig cefnogaeth lle bo'n bosibl. 

Yn aml, bydd hyn yn cynnwys cyfeirio'r unigolyn at sefydliadau allanol a all gynnwys sefydliadau megis MIND Cymru, Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Cyngor ar Bopeth, Cruse Cymru, gwasanaethau cymorth o ran cyffuriau ac alcohol neu Age UK. 

Pryd i drafod Straen 

Mae'n gallu bod yn anodd iawn gwybod pryd y dylid trafod straen â thimau neu unigolyn. I ddechrau, ceisiwch ddefnyddio eich gwybodaeth am sut y mae eich tîm yn gweithredu a'r awyrgylch sy'n bodoli o fewn eich tîm. Fel rheol, ceir cyfle i drafod mewn cyfarfodydd tîm, grwpiau ffocws, diwrnodau cwrdd i ffwrdd, yn ystod arfarniadau neu yn ystod trafodaethau ad hoc/mwy anffurfiol. 

Sut i Ddelio â Straen 

Mae llawer o reolwyr yn ei chael hi'n anodd delio â straen, yn aml oherwydd bod llawer o wahanol arwyddion ac achosion posib ynghlwm wrtho. Rydym wedi datblygu Asesiad Straen Unigol y gall unigolion ei gwblhau i helpu i nodi straen penodol. Rydym yn argymell bod rheolwyr a gweithwyr yn cwblhau'r asesiad gyda'i gilydd. Gweler rhagor o wybodaeth ynghylch hyn ar y dudalen Asesiad Straen Unigol. 

Mae modd i Iechyd Galwedigaethol hefyd gynorthwyo trwy ofyn i'n Hymarferwyr Cymorth Llesiant gynnal sesiynau cymorth llesiant 1:1 neu mewn grŵp, sesiynau galw heibio, addysg a chyngor. Byddem yn argymell bod Asesiad Straen Unigol yn cael ei gynnal yn y lle cyntaf ac os oes angen cyngor clinigol pellach, gellir trefnu atgyfeiriad neu gallwch gysylltu â'r Ganolfan Iechyd Galwedigaethol drwy ffonio 01267 246060 i gael rhagor o wybodaeth. 

Iechyd a Llesiant