Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio

Diweddarwyd y dudalen: 15/04/2024

Beth yw Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio?

Gwahaniaethau neu Anhwylderau Sylw yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at anhwylder diffyg sylw (ADD) ac anhwylder gorfywiogrwydd a diffyg canolbwyntio (ADHD). Fel yr awgryma'r enw maent yn arwain at anawsterau wrth gynnal sylw, yn ogystal ag ymddygiad byrbwyll a gorfywiog mewn llawer o achosion.

Mae anhwylderau sylw yn effeithio ar unigolion yn wahanol, felly mae'n bwysig peidio â chymryd yn ganiataol bod yr holl anawsterau posibl isod yn effeithio ar rywun sydd â'r cyflwr. Yr unigolyn yw'r arbenigwr yn ei gyflwr felly'r unigolyn ddylai fod eich prif ffynhonnell wybodaeth am sut y mae'n effeithio arno. Gall fod yn gyflwr sy'n gwanhau rhywun, ac oherwydd y syniad bod pob person niwroamrywiol yn ddiog ac yn anghofus, mae llawer o bobl yn tyfu i fyny heb lawer o hunan-barch a all gael effaith fawr ar eu hiechyd meddwl.

 

Manteision cael gweithiwr sydd ag ADHD.

  • gallu canolbwyntio'n ddwys ar dasgau a bod yn hynod gynhyrchiol
  • gallu bod yn greadigol iawn ac yn entrepreneuraidd
  • gallu gweld pethau o safbwynt gwahanol
  • sgiliau datrys problemau
  • empathi
  • egnïol
  • brwdfrydig
  • gweithio'n galed
  • diddordeb mewn pethau newydd

 

Sut gall effeithio ar eich patrymau gwaith?

Canolbwyntio a ffocws

  • Trefnusrwydd a chof
  • Byrbwylltra, gorfywiogrwydd neu aflonyddwch
  • Anhawster canolbwyntio, sylw'n crwydro a hawdd iawn i bethau dynnu sylw.
  • Anhawster mynd yn ôl i dasg ar ôl i rywbeth dorri ar draws.
  • Mynd o un gweithgaredd i'r llall, gan esgeuluso manylion.
  • Sgiliau gwrando gwael neu golli diddordeb.
  • Canolbwyntio'n ddwys - ymgolli'n ormodol mewn tasgau diddorol.

Sut gellir gwneud addasiadau rhesymol.

  • Osgoi swyddfeydd cynllun agored.
  • Darparu mynediad i fannau tawel.
  • Lleihau ffactorau a fydd yn tynnu sylw
  • Eu galluogi i ganolbwyntio ar un dasg ar y tro.
  • Cael arwydd 'Peidiwch â tharfu'.
  • Seibiannau rheolaidd
  • Tasgau cyffredin a diddorol am yn ail.

Trefnusrwydd a'r cof. 

  • Trefniadaeth wael.
  • Gweithle afler neu anniben.
  • Tueddu i golli pethau
  • Cael anhawster dygymod â nifer o dasgau a blaenoriaethu
  • Rheolaeth wael ar amser, hwyrni parhaus, anghofio apwyntiadau
  • Gohirio pethau. Cael anhawster dechrau a gorffen tasgau.

Sut gellir gwneud addasiadau rhesymol

  • Annog y defnydd o ddyddiadur/cynllunydd/rhestrau gwirio/larymau
  • Awgrymu eu bod yn cynllunio i gyrraedd yn gynnar neu baratoi'r noson cynt
  • Cytuno ar amserlen waith gydag amseriadau cyn dechrau.
  • Sefydlu gweithle trefnus e.e. ffolderi, hambyrddau, desg daclus.
  • Defnyddio côd lliwiau a labeli.
  • Awgrymu amseroedd cynllunio a threfnu ar ddechrau a diwedd y dydd
  • Annog yr arfer o ysgrifennu tasgau a gwybodaeth. A all technoleg helpu?

Byrbwylltra/Gorfywiogrwydd neu Aflonyddwch.

  • Tueddu i dorri ar draws eraill.
  • Ateb cyn i'r cwestiwn orffen
  • Ymddwyn neu siarad heb feddwl
  • Ymddygiad di-hid a chymryd risgiau.
  • Tueddiadau caethiwus posibl.
  • Rhuthro drwy dasgau heb ystyried cyfarwyddiadau a gwneud camgymeriadau
  • Cael anhawster ymddwyn mewn ffyrdd sy'n briodol yn gymdeithasol.
  • Llawn egni a byth yn llonydd
  • Teimlo'n aflonydd ac yn gythryblus - meddyliau'n rasio
  • Bod yn gyson aflonydd ac anhawster eistedd yn llonydd
  • Ceisio gwneud popeth ar unwaith.
  • Siarad yn ormodol
  • Yn diflasu'n rhwydd ac yn crefu am gyffro.

Sut gellir gwneud addasiadau rhesymol;

  • Gall symud o gwmpas helpu - sefyll i fyny neu gerdded o gwmpas.
  • Awgrymu eu bod yn gwneud rhywbeth corfforol yn ystod cyfarfodydd e.e. cymryd nodiadau, dwdlan neu gael pêl straen.
  • Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd ac awyr iach fod yn llesol.
  • Caniatáu defnyddio teganau aflonyddu yn y swyddfa.

Anawsterau emosiynol neu gymdeithasol.

  • Anhawster rheoli emosiynau, yn enwedig dicter neu rwystredigaeth. Hawdd i'r straen fynd yn ormod.
  • Byr ei dymer, pigog ac yn dueddol o fynd o'r un hwyl i'r llall.
  • Teimlo eu bod wedi tangyflawni. Hunan-barch isel, ansicr a sensitif.
  • Anhawster cynnal cymhelliant.
  • Straen posibl ar berthnasoedd personol a gwaith.

Sut gellir gwneud addasiadau rhesymol:

  • Dod o hyd i ffordd iddynt drafod pryderon a delio â straen/rhwystredigaeth
  • Gosod nodau cyraeddadwy bach i feithrin hyder a dathlu llwyddiant
  • Osgoi beirniadaeth a chreu cyfleoedd ar gyfer adborth cadarnhaol a chanmoliaeth.

Proses ar gyfer diagnosis

Os nad ydych wedi cael diagnosis o Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio (ADHD) pan oeddech yn blentyn, yna gallwch gael diagnosis fel oedolyn. Fodd bynnag, oherwydd rhestrau aros hir a phobl yn cael anhawster cael apwyntiad meddyg, gall hyn fod yn anodd.

Gallwch ddilyn y dolenni hyn i ddechrau gyda'ch diagnosis.

Nid oes angen diagnosis arnoch er mwyn siarad â'ch rheolwr am addasiadau rhesymol ac mae llawer o bobl yn teimlo nad oes angen y diagnosis swyddogol arnynt.

Iechyd a Llesiant