Canllawiau i Benaethiaid

Diweddarwyd y dudalen: 26/05/2023

Llesiant Tîm

Fel rheolwr, rydych yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol eich tîm. Yn ogystal â llawer o rolau eraill, gallwch ddylanwadu ar y canlynol:

  • Cymhelliant tîm
  • Dosbarthiad llwyth gwaith
  • Cefnogi o ran perthnasoedd yn y tîm a thu allan iddo
  • Amgylchedd gwaith cadarnhaol
  • Diwylliant gwaith cadarnhaol
  • Cefnogi'r tîm drwy newid
  • Arwain drwy esiampl o ran eich hunanofal eich hun

Mae pob un o'r rhain yn dylanwadu ar lesiant staff. Mae gweithwyr yn llawer mwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau llesiant os ydynt yn gweld bod eu rheolwyr yn gwneud hynny (ac yn fwy tebygol o weithio'n hwyr os yw eu rheolwyr yn gweithio'n hwyr). Yn wir, rhan ganolog rôl y rheolwr yw annog newid adeiladol a chynnal amgylchedd cefnogol. Os yw ysbryd y gweithlu wedi'i lethu, eu bod o dan straen, yn ddi-egni neu nad ydynt yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol, bydd cynhyrchiant ac effeithlonrwydd y tîm yn dioddef o ganlyniad.

Felly, beth allwch chi ei wneud? Ble rydych chi'n dechrau?

Y peth cyntaf i'w wneud yw deall a oes unrhyw faterion llesiant yn effeithio ar eich tîm. Er enghraifft, a ydynt yn delio ag ymholiadau neu gŵynion cyson gan y cyhoedd? Beth yw dyletswyddau'r swydd – eistedd neu sefyll am gyfnodau hir, gwaith corfforol, gyrru? A ydynt yn tueddu i weithio oriau hir, anfon negeseuon e-bost yn hwyr yn y nos neu ar benwythnosau? Mae pob tîm yn wahanol felly mae cymryd yr amser i ddeall hyn yn bwysig.

Gallech wneud y canlynol:

  • Gofynnwch i staff beth sy'n effeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol ar eu llesiant, beth sy'n gweithio'n dda eisoes a pha newidiadau mawr a bach y gellid eu gwneud a fyddai'n cael effaith fwy cadarnhaol.
  • Rhowch adborth i staff am yr hyn y byddwch yn ei wneud (hyd yn oed os yw'n rhywbeth na allwch ddylanwadu arno, gyda phwy allwch chi siarad) a bod yn onest am yr hyn na allwch ei newid. Sicrhewch eich bod yn rhoi amserlenni a'ch bod yn cadw at y rhain.
  • Siaradwch â'ch tîm am eu patrymau gwaith, a ydynt yn tueddu i ddechrau'n gynnar, gorffen yn hwyr, a ydynt yn gweithio drwy ginio, a ydynt yn anfon negeseuon e-bost neu'n gweithio yn hwyr yn y nos?
  • Anfonwch arolwg iechyd a llesiant i edrych ar iechyd a llesiant sylfaenol staff a hefyd nodi meysydd lle mae angen gwneud gwaith pellach (siaradwch â'r Tîm Iechyd a Llesiant). I gael yr ymateb gorau, gofynnwch i staff gwblhau hyn fel rhan o gyfarfod.
  • Darganfyddwch a oes gan eich Adran neu'ch Gwasanaeth Gynllun Gweithredu Llesiant ac edrychwch ar sut y gallwch helpu i gyflawni camau gweithredu'r cynllun a fydd hefyd yn cefnogi eich tîm.
  • Dadansoddwch absenoldeb salwch, cofnodi damweiniau a data atgyfeirio iechyd galwedigaethol er mwyn nodi'r prif faes sy'n peri pryder. (Gall y tîm adnoddau dynol roi cymorth pellach gyda hyn).
  • Os yw straen yn bryder, dylech gynnal Asesiadau Straen Unigol gyda phob aelod o'r tîm i nodi achos straen

 

 

Unwaith y byddwch yn gwybod beth yw'r problemau gallwch weithio gyda'ch tîm i gynnig atebion gyda'r nod o gefnogi'r tîm a lleihau unrhyw bryderon ynghylch llesiant. Rhowch y camau hyn mewn Cynllun Gweithredu Llesiant a chytuno arnynt gyda'ch tîm. Dylech ei gysylltu ag unrhyw gynlluniau gweithredu presennol.

Sicrhewch hefyd eich bod yn cysylltu eich cynllun gweithredu â'ch cynllun busnes fel bod eich tîm yn gweld eich bod yn cymryd llesiant a'r cynllun gweithredu o ddifrif.

Ystyriwch ym mha ddogfennau eraill y mae angen sôn am eich cynllun gweithredu – e.e. systemau gwaith diogel.

Fel y soniwyd o'r blaen, mae pob tîm yn wahanol. Fodd bynnag, mae rhai camau gweithredu safonol y gall pob tîm eu cymryd (wedi'u cynnwys yn nhempled y Cynllun Gweithredu Llesiant). Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Recriwtio Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant
  • Dylai'r rheolwr roi cymorth clir i staff gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau a digwyddiadau a chefnogaeth glir i'r Hyrwyddwr i gyflawni ei rôl
  • Rhannu gwybodaeth a chymorth iechyd a llesiant sydd ar gael (drwy Hyrwyddwyr, Cyfarfodydd Tîm, Cyfarfodydd 1:1)
  • Rhoi amser i staff ymgymryd ag e-ddysgu ynghylch iechyd a llesiant e.e. gwytnwch personol a mynychu hyfforddiant iechyd meddwl e.e. ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a digwyddiadau e.e. gwiriadau iechyd
  • Creu Siarter Llesiant

Gallai enghreifftiau eraill gynnwys:

  • Sicrhau bod holl staff y swyddfa wedi cwblhau asesiad Cyfarpar Sgrîn Arddangos a bod ganddynt yr offer priodol
  • Sicrhau bod gan bob aelod o staff fynediad i fan addas i fwyta ei ginio i ffwrdd o'i ddesg
  • Dechrau sesiwn ymestyn/cynhesu ar ddechrau pob diwrnod gwaith.

Yn ogystal ag ystyried yr hyn y gallai fod angen i chi ei wneud fel tîm, mae hefyd yn bwysig ystyried yr hyn rydych yn ei wneud yn dda eich hun a ble y gallech wneud gwelliannau o ran rheoli eich tîm.

Gallai hyn gynnwys:

  • Canmol yn amlach – nododd 70% o'r staff mewn arolwg diweddar y byddai morâl y staff yn well pe bai eu rheolwr yn diolch iddynt yn amlach.
  • Gwella eich gwybodaeth am iechyd a llesiant – edrychwch ar yr adran Dysgu a Datblygu i weld pa gyrsiau sydd ar gael.
  • Rhoi llesiant ar frig agendâu cyfarfodydd tîm, cyfarfodydd 1:1 ac ati.
  • Meddyliwch yn wahanol – meddyliwch am wahanol ffyrdd o ymgysylltu â'ch tîm a'u gwobrwyo
  • Arwain drwy esiampl – dangos arferion da ar hunanofal a bydd eich tîm yn dilyn e.e. peidio ag anfon negeseuon e-bost na bod ar-lein yn hwyr yn y nos, peidio â chynnal cyfarfodydd dros amser cinio ac ati. Byddwch mewn cyflwr gwell yn gorfforol, yn emosiynol ac yn feddyliol er mwyn gallu arwain eich tîm yn effeithiol.
  • Dilynwch ein Siart Llif Llesiant Gweithwyr os oes unrhyw aelodau o'r tîm wedi codi pryderon iechyd a llesiant.

Angen rhagor o gyngor neu gymorth?

Os hoffech gael rhagor o gymorth ar gyfer iechyd a llesiant eich tîm (e.e. helpu i benderfynu ar gamau gweithredu, rhagor o gyngor ynghylch yr uchod neu fod Cydgysylltydd Iechyd a Llesiant yn bresennol yng nghyfarfod eich tîm), mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Iechyd a Llesiant.

 

Iechyd a Llesiant